Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gŵyr yr Aelodau, ym mis Ebrill 2019, cyhoeddais yr adroddiad a luniwyd ar y cyd rhwng Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth yng nghyn-Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Un o’r camau a gymerais ar unwaith, wedi i’r adroddiad hwn ddod i law, oedd rhoi’r gwasanaethau mamolaeth mewn mesurau arbennig a sefydlu’r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth.

Cyhoeddais ddatganiad i'r Aelodau ym mis Hydref yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y Panel wrth oruchwylio'r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau mamolaeth. Cyhoeddais hefyd Adroddiad Cynnydd Chwarterol y Panel ar gyfer yr hydref yn ogystal â'i Strategaeth ar gyfer Adolygiadau Clinigol.

Rwyf wedi cael Adroddiad Cynnydd Chwarterol y Panel ar gyfer y gaeaf yn ddiweddar ac rwyf bellach mewn sefyllfa i’w gyhoeddi cyn fy Natganiad Llafar yfory.  Rwy’n falch fy mod wedi cael cyfle, ynghyd â’r Panel, i gyfarfod â merched a theuluoedd yr wythnos ddiwethaf, i glywed drosof fy hun sut y gallwn wneud gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau mamolaeth ar gyfer mamau, eu babanod a’u teuluoedd.

Mae’r adroddiad unwaith eto yn rhoi darlun cynhwysfawr o’r cynnydd y mae’r gwasanaethau mamolaeth wedi’i wneud hyd yma. Mae’n rhoi amlinelliad clir o waith y Panel hyd yma ac yn cynnwys y camau arfaethedig nesaf. Rwy’n falch fod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd da ers yr adroddiad diwethaf a bod cynnydd pellach wedi’i wneud wrth ymateb i’r tri argymhelliad diogelu sy’n weddill.  Mae tystiolaeth hefyd ei fod wedi cyflawni 25 o argymhellion eraill yn llwyddiannus. Er bod hyn yn galonogol, mae’n amlwg o’r adroddiad bod llawer iawn o waith i’w wneud o hyd, er enghraifft ynghylch trafod cwynion a phryderon. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd sicrhau bod y strwythurau perthnasol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn iddo allu parhau i wella ar y cyflymdra gofynnol, gan ddangos y ddisgyblaeth sydd ei hangen.

Yn ogystal ag edrych ymlaen a sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud i  wasanaethau yn y dyfodol, mae’r Panel yn gyfrifol hefyd am edrych yn ôl ar ofal mamolaeth yn y gorffennol a’i adolygu er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i ddysgu a chyfrannu at y broses o wella’r gwasanaethau. Mae'r Strategaeth ar gyfer Adolygiadau Clinigol yn rhoi amlinelliad o fethodoleg arfaethedig y Panel ar gyfer cynnal adolygiadau clinigol amlddisgyblaethol o ofal mamolaeth. Bydd cam cyntaf yr adolygiadau clinigol yn canolbwyntio ar ofal mamau a babanod rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018. Mae meini prawf cynhwysiant eang wedi cael eu datblygu a’u mabwysiadu er mwyn gallu nodi meysydd o arferion da yn ogystal ag enghreifftiau o ofal a oedd islaw'r safonau disgwyliedig.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud dros y tri mis diwethaf er mwyn sicrhau bod modd dechrau cynnal yr adolygiadau. Mae'n bleser gennyf ddweud bod tîm mawr o adolygwyr clinigol profiadol, annibynnol wedi cael ei recriwtio. Mae’r tîm hwn yn cynnwys bydwragedd, obstetregwyr, neonatolegwyr ac anesthetyddion. Dechreuasant eu gwaith ym mis Rhagfyr drwy fynychu digwyddiadau sefydlu i ymgyfarwyddo â'r broses arfaethedig ac mae rhai wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot llwyddiannus i brofi'r system sydd wedi’i sefydlu.

Mae’n hanfodol bod merched a theuluoedd yn parhau i fod yn ganolog i’r adolygiadau hyn. Mae cymorth eirioli wedi cael ei drefnu gan Gyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg ar gyfer merched a theuluoedd y bydd eu gofal yn cael ei adolygu. O ganlyniad, mae rhaglen adolygiadau clinigol y Panel bellach wedi dechrau. Cysylltodd y Panel â'r holl ferched y bydd eu gofal yn cael ei adolygu yn ystod y cam cyntaf ddechrau mis Ionawr, i egluro'r broses, gan gynnwys sut y gallent gymryd rhan os ydynt yn dymuno gwneud hynny, yn ogystal â'u cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chymorth.

Mae hwn yn ymarfer mawr a sensitif iawn sy'n cynnwys adolygu oddeutu 140 beichiogrwydd a bydd yn cymryd amser i'w gwblhau yn drylwyr ac mewn modd cynhwysol. Yn anffodus, ni allaf ddarparu unrhyw amserlenni pellach ar hyn o bryd. Rwy'n siŵr bod yr holl Aelodau'n cytuno ei bod yn hanfodol bod yr adolygiadau hyn yn cael eu cwblhau'n drylwyr yn hytrach nag yn gyflym.

Bydd fy niweddariad yfory yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â chynnydd yr holl agweddau ar statws ymyrraeth wedi’i thargedu a mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.