Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi cyhoeddi’r bedwaredd set o ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig). Mae’r ystadegau alldro yn dangos bod cyfraddau treth incwm Cymru yn 2022-23 wedi codi £2,618m, sydd £254m neu 11% yn fwy na 2021-22.
Mae’r ystadegau alldro treth incwm yn darparu cyfraddau refeniw treth incwm Cymru a’r refeniw treth incwm cyfwerth ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig. Bydd y ffigurau alldro yn cael eu defnyddio i gyfrifo addasiad terfynol i’r grant bloc ar gyfer 2022-23.
Bydd y gwahaniaeth rhwng yr alldro a’r rhagolygon a ddefnyddiwyd yng Nghyllideb 2022-23 yn cael ei ychwanegu at y grant bloc ar gyfer 2025-26 fel addasiad cysoni. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno ar y ffigurau hyd yma, ond bydd y cysoniad net yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Mae’r cyhoeddiad ynghylch alldro eleni yn cynnwys diwygiadau bach i alldro’r blynyddoedd blaenorol. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi datganiad y cytunwyd arno ar y cyd a fydd yn egluro sut y cafodd y diwygiadau hyn eu trin wrth gysoni mewn blynyddoedd blaenorol, yn ogystal â nodi manylion y cysoniad ar gyfer 2022-23. Y bwriad yw sicrhau tryloywder llawn yn y Fframwaith Cyllidol, a helpu i wella’r ddealltwriaeth ehangach o’r Fframwaith.