Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi cyhoeddi’r drydedd set o ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig). Mae hyn yn nodi cam pwysig arall yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru. Mae’r ystadegau alldro yn dangos bod cyfraddau treth incwm Cymru yn 2021-22 wedi codi £2,384m sydd £244m neu 11.4% yn fwy na 2020-21.
Mae’r ystadegau alldro treth incwm yn darparu cyfraddau refeniw treth incwm Cymru a’r refeniw treth incwm cyfwerth ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig. Bydd y ffigurau alldro yn cael eu defnyddio i gyfrifo addasiad terfynol i’r grant bloc ar gyfer 2021-22, pan fydd cyfres o amcangyfrifon o’r boblogaeth sy’n cyd-fynd â Chyfrifiad 2021 yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Medi.
Caiff y gwahaniaeth rhwng y refeniw treth incwm a’r addasiadau i’r grant bloc a ddefnyddiwyd yng Nghyllideb 2021-22 Llywodraeth Cymru a’r alldro terfynol ei ddefnyddio i gyfrifo swm cysoni. Bydd hwn yn cael ei gymhwyso i ddyraniad grant bloc 2024-25 Llywodraeth Cymru. Yn seiliedig ar yr amcangyfrifon poblogaeth cyfredol, mae’r cysoni’n debygol o fod yn gadarnhaol.
Pan fydd yr amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi datganiad ar y cyd yn nodi’r swm cysoni a sut y mae wedi’i gyfrifo. Diben hyn yw sicrhau tryloywder a helpu i wella dealltwriaeth ehangach o’r Fframwaith Cyllidol.