Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fy mlaenoriaeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw codi dyheadau yng Nghymru i bob plentyn a pherson ifanc, ehangu gorwelion a datblygu uchelgais er mwyn sicrhau y gall pawb gyflawni. Rhaid i'n system addysg anelu at sicrhau bod plant a phobl ifanc yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r nodweddion sydd eu hangen arnynt ar gyfer y byd modern, i'w galluogi i gystadlu a llwyddo er budd iddynt hwy eu hunain ac er budd i Gymru. Adlewyrchir yr uchelgais hwn yn y pedwar diben a fydd wrth wraidd y cwricwlwm a'r fframwaith asesu newydd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu: 
  • yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • yn unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau o gymdeithas a werthfawrogir
  • yn ddinasyddion moesegol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu'r cwricwlwm newydd i Gymru a ddefnyddir i ategu'r gwaith dysgu ac addysgu mewn ysgolion a lleoliadau o fis Medi 2021. Rwyf yn benderfynol bod angen i'r gweithlu addysg fod wrth wraidd y broses ddylunio hon ac, felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi dyfarnu statws 'Ysgol Arloesi' i 25 o ysgolion ychwanegol. 
Byddant yn ymuno â'r Ysgolion Arloesi sy'n bodoli eisoes gan ganolbwyntio ar ddylunio a datblygu'r cwricwlwm yn ogystal â'r Rhwydwaith Arloesi ehangach sy'n cynnwys ysgolion sy'n chwarae rhan arweiniol ym maes dysgu proffesiynol a Chymhwysedd Digidol. Mae'r Rhwydwaith Ysgolion Arloesi yn gweithio o fewn partneriaeth Cymru gyfan gyda Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol, Estyn, addysg uwch, addysg bellach, cyflogwyr ac arbenigwyr eraill er mwyn rhoi'r diwygiadau hyn ar waith.    
Hyd yn hyn, bu'r Ysgolion Arloesi sy'n canolbwyntio ar ddylunio'r cwricwlwm wrthi'n datblygu elfennau strategol a strwythurol y fframwaith newydd. Rydym ar fin dechrau ail gam y broses ddatblygu a bydd gwaith yn dechrau'r mis hwn ar y broses lefel uchel o ddylunio chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm newydd, sef:
  •  Y celfyddydau mynegiannol 
  • Iechyd a lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg
Bydd penodi'r Ysgolion Arloesi ychwanegol hyn yn golygu bod sectorau wedi'u cynrychioli'n briodol ar draws y Rhwydwaith Ysgolion Arloesi er mwyn sicrhau bod y Meysydd Dysgu a Phrofiad a gaiff eu datblygu yn briodol ar gyfer pob ysgol a lleoliad yng Nghymru.