Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deddf Sector Amaethyddiaeth (Cymru) 2014 yw’r sylfaen ar gyfer gwireddu nod Llywodraeth Cymru o weld diwydiant amaethyddol modern, proffesiynol a phroffidiol yng Nghymru. Yn gefn iddo, bydd gweithlu brwd sydd wedi’i hyfforddi‘n dda ac sy’n cael ei dalu’n briodol. Rwy’n falch ein bod ni yng Nghymru wedi penderfynu i gadw swyddogaethau’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol sy’n caniatáu inni barhau i weithio o dan drefn statudol sy’n sicrhau amodau gweithio teg, sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo profiad a chymwysterau ac sy’n cynnig llwybr dyrchafiad clir i bobl sy’n gweithio mewn amaethyddiaeth.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofyn ar Weinidogion Cymru i sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth (y Panel). Bydd y Panel yn chwarae rhan hanfodol i gefnogi gweithrediad amaethyddiaeth drwy sefydlu fframwaith teg ar gyfer adolygu cyflogau ac amodau cyflogaeth a drwy hyrwyddo gyrfaoedd a datblygu sgiliau yn y sector.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad y llynedd ar gynigion amlinellol ar gyfer strwythur y Panel. Rwy’n falch bod ymateb cyffredinol y diwydiant i’r cynigion cychwynnol wedi bod yn bositif ac adeiladol. Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar y cynigion terfynol a ddatblygwyd ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad cyntaf ac fel ymateb i’r adborth a gafwyd gan randdeiliaid allweddol.

Mae’r ymgynghoriad yn seiliedig ar bedwar prif gynnig ynghylch swyddogaeth, cyfansoddiad a phroses dewis aelodau’r Panel. Bydd yr ymatebion i’r cynigion yn helpu Llywodraeth Cymru i sefydlu strwythur a chylch gwaith y Panel a saernïo sylfaen deddfwriaethol ar gyfer cyflwyno’r corff hanesyddol hwn. Fy nyhead yw gweld Panel sy’n sicrhau tegwch i weithwyr ac sy’n gallu ymateb i anghenion y diwydiant yng Nghymru.

Swyddogaeth y Panel fydd adolygu cyfraddau cyflog ac amodau a thelerau cyflogaeth eraill yn y sector amaethyddol. Bydd y Panel yn ystyried buddiannau gweithwyr a chyflogwyr a chynnig setliadau cyflog newydd fydd yn dibynnu ar ddealltwriaeth o’r ffordd y mae’r diwydiant yng Nghymru’n gweithio a’i amodau gwaith.

Mae’r Ddeddf yn datgan hefyd bod yn rhaid i’r Panel hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth. Wrth wneud, bydd ganddo’r sgôp hefyd i helpu newydd-ddyfodiaid trwy weithio’n agos â sefydliadau addysgol a hyfforddi yng Nghymru a bydd yn cyfrannu at ein nod trosfwaol o wneud y diwydiant yn fwy proffesiynol trwy sicrhau bod gweithwyr yng Nghymru yn cael manteisio ar hyfforddiant perthnasol ac yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Bydd datblygu a chadw gweithlu crefftus yn gwneud y diwydiant yn ei gyflawnder yn fwy effeithlon, cynhyrchiol a phroffidiol.

Bydd gwaith y Panel yn cyfrannu’n uniongyrchol hefyd at wireddu amcanion y Llywodraeth o dan yr agenda Trechu Tlodi, gan helpu economïau cefn gwlad a diogelu gweithwyr sydd ar gyflogau isel. Yn ogystal, bydd yn cyfrannu at roi argymhellion adolygiad yr Athro Wynne Jones ar addysg a datblygu sgiliau yn y sector amaethyddol ar waith.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 25 Mawrth 2015 ac yn dod i ben ar 19 Mehefin 2015.