Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw bod yr ymgynghoriad ynghylch gwella'r cyfleoedd i gael mynediad i'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol wedi dechrau.


Mae cael mynediad i’r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden yn rhan allweddol o’n polisi cyfoeth naturiol. Mae’n bwysig rhoi cyfle i bobl gael blas ar barciau, coetiroedd, mynyddoedd a’r arfordir drwy gynnig amrywiaeth o weithgareddau hamdden awyr agored. Mae hynny’n gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at gyrraedd ein hamcanion uchelgeisiol tymor hir. Rydym am weld Cymru yn wlad lewyrchus, gryf sy’n fwy iach ac yn fwy cyfartal ac ynddi gymunedau cydlynol a diwylliant llewyrchus â’r Gymraeg yn ffynnu.


Rydym yn ceisio eich barn ar ffyrdd o leihau’r costau a’r beichiau sy’n gysylltiedig â gweinyddu llwybrau cyhoeddus a hawliau mynediad eraill. Rydym eisiau clywed eich barn ar sut y gallwn gwrdd â’n hanghenion hamdden presennol ac anghenion y dyfodol yn well. Hefyd, hoffem glywed eich barn ar ffyrdd o fynd i’r afael â rai o’r anawsterau ymarferol sydd ynghlwm wrth wella’r cyfleoedd i bawb ac nid dim ond i’r rheini yn gallu fforddio teithio neu’r rheini sydd eisoes yn frwdfrydig dros un neu ragor o weithgareddau. Rydym eisiau i fwy o bobl gymryd rhan.