Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf. Rydym yn dymuno i Gymru fod yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol. 

Mae Cymru wedi arwain y ffordd ym maes hawliau plant drwy eu hymgorffori mewn cyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth wraidd ein holl bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc a pholisïau sy'n effeithio arnynt. 

Rydym yn cyhoeddi adroddiad cydymffurfio bob dwy flynedd a hanner yn dangos sut rydym wedi bodloni'r ymrwymiad hwnnw. Cyhoeddwyd y diweddaraf o'r rhain ym mis Gorffennaf 2023.

Mae ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn datgan yr hyn y byddwn yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny yng Nghymru. Fe wnaethom gyhoeddi diweddariad i'r cynllun ym mis Ionawr 2024. Mae'r diweddariad yn dangos cwmpas eang y gwaith rydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru i wella bywyd pob plentyn a pherson ifanc, gan eu cefnogi yn y blynyddoedd cynnar, o fewn eu teuluoedd ac mewn addysg a thu hwnt. Mae ein blaenoriaethau yn adlewyrchu ein cred bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i'r dechrau gorau mewn bywyd; i gael eu trin yn deg, cael cartref diogel a bod yn iach yn feddyliol, yn gorfforol ac yn emosiynol.   

Cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei adroddiad Arsylwadau Terfynol ym mis Mehefin 2023. Y cyhoeddiad oedd diweddglo ei chweched a’i seithfed adolygiad cyfnodol o’r Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth sy’n barti a llofnodwr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Chwaraeodd Llywodraeth Cymru, y gymdeithas sifil a phlant a phobl ifanc o Gymru ran lawn yn y dasg o gefnogi gwaith y Pwyllgor ac, fel llywodraeth, gwnaethom groesawu'r cyngor adeiladol a roddodd y Pwyllgor yn ei adroddiad. 

Mae cwmpas eang i'r adroddiad ac mae'n gwneud tua 200 o argymhellion. Mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u hanelu at y DU yn gyffredinol, ac mae llawer yn berthnasol i Gymru. Maent wedi'u cynllunio i helpu llywodraethau i roi'r confensiwn ar waith.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r argymhellion a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd. Mae ein hymateb yn mynd i'r afael â'r argymhellion hynny sy'n ymwneud yn sylweddol â materion sy'n gyfrifoldebau i Llywodraeth Cymru, a dylid eu darllen ochr yn ochr â'n Hadroddiad Cydymffurfio a'r diweddariad i'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc.

Rydym eisiau Cymru ar gyfer pob plentyn ac mae eu cefnogi i gael mynediad at eu hawliau a'u gwireddu yn ganolog i'r uchelgais hwnnw. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

https://www.llyw.cymru/confensiwn-y-cenhedloedd-unedig-ar-hawliaur-plentyn-ymateb-y-llywodraeth-2024