Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd am fod yn ymwybodol bod Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd y DU (JFS) wedi ei gyhoeddi ar y cyd heddiw gan holl Weinyddiaethau'r DU ac mae i'w weld yma.

Mae'r Datganiad yn pennu y cyfeiriad ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y DU dros y blynyddoedd nesaf ac yn ffurfio rhan allweddol o'r Fframwaith Pysgodfeydd Newydd.

Mae'r datganiad a gyhoeddwyd yn cydnabod bod amgylchedd morol iach yn sail i sector pysgota iach a chymunedau arfordirol sy'n ffynnu. Mae'n cadarnhau ein hymrwymiad i ddiogelu ac adfer stociau, yn ogystal â gwella iechyd yr amgylchedd morol.

Mae ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar y Datganiad drafft wedi'i gyhoeddi ar yr un pryd.  Mae'n ategu'r crynodeb ffeithiol o ymatebion i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf ac sydd i'w weld yma.

Wrth inni droi ein ffocws at gyflawni'r polisïau a'r ymrwymiadau a nodir yn y Datganiad, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i rannu diweddariadau ar gynnydd, gan gynnwys rhaglen y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd.