Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) eleni a'r flwyddyn nesaf cyn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ddechrau yn 2026.
Heddiw, mae mwy na 94% o hawlwyr wedi derbyn eu taliad llawn neu eu hail daliad BPS 2024. Mae dros 15,300 o fusnesau fferm yng Nghymru wedi cael taliadau gwerth £66.88m, yn ogystal â gwerth £160.52m o ragdaliadau BPS sydd wedi'u talu ers 14 Hydref. Bydd fy swyddogion wrthi'n gweithio'n galed nawr i brosesu’r hawliadau BPS 2024 sy'n weddill heb eu talu. Rwy'n rhagweld y bydd pawb, heblaw am yr achosion mwyaf cymhleth, wedi cael eu talu'n llawn erbyn 30 Mehefin 2025.
Ym mis Mai cyhoeddais y byddwn yn cadw'r BPS ar gyfer 2025 fel rhan o'r Cam Paratoi ar gyfer yr SFS.
Heddiw, gallaf gadarnhau y bydd cyllideb o £238 miliwn ar gyfer Taliadau Uniongyrchol fydd yn talu taliadau BPS i ffermwyr yn 2025 ar yr un lefel ag yn 2024. Rydym yn rhagweld mai BPS 2025 fydd blwyddyn olaf y taliadau BPS llawn, gyda'r Cyfnod Pontio i'r SFS yn dechrau yn 2026.
Rydym yn cydnabod bod y sector amaeth wrthi’n newid yn fawr ac felly mae Gweinidogion Cymru yn parhau i amddiffyn cyllideb y BPS er mwyn gallu parhau i helpu ffermwyr wrth i ni symud at fywyd ar ôl BPS. Rydym wedi gwrando ar ffermwyr a'u cynrychiolwyr am bwysigrwydd sicrhau elfen o sefydlogrwydd cyn cyflwyno'r SFS.
Cyhoeddais Amlinelliad o'r SFS diweddaraf yn ddiweddar, i ddangos y newidiadau arwyddocaol yr ydym wedi'u gwneud i'r Cynllun arfaethedig, diolch i’r ymateb i’r ymgynghoriad ac ar ôl gweithio’n galed â’r Ford Gron Gweinidogol a rhanddeiliaid eraill. Mae'r newidiadau'n ymateb i anghenion ffermwyr Cymru a'r un pryd, yn eu helpu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac i daclo’r argyfyngau hinsawdd a natur. Byddwn yn dal i wrando a gweithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni weithio ar y manylion ychwanegol sydd eu hangen cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar y SFS y flwyddyn nesaf.
Ochr yn ochr â BPS 2025, rwyf wedi cyhoeddi nifer o gynlluniau paratoi ar gyfer yr SFS gan gynnwys Cynllun Cynefin Cymru, Cynllun Cynefin Tir Comin, Taliad Cymorth Organig, Cyswllt Ffermio, a Chynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd. Mae ffenestri ymgeisio newydd wedi agor ac yn agor cyn hir ar gyfer ein cyn lluniau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, Grantiau Bach yr Amgylchedd, Grantiau Bach Effeithlonrwydd, Grantiau Bach Cychwyn Garddwriaeth a'r Cynllun Arallgyfeirio a Garddwriaeth Amaethyddiaeth sydd newydd ei gyfuno.
Rydym yn wynebu cyfnod ansicr ac anodd; ond mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo’n ddiwyro i gefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd yn gynaliadwy. A dangosir hynny heddiw yn y gyllideb rydym wedi'i chadw ar gyfer y BPS, er gwaethaf pwysau ariannol sylweddol ar feysydd eraill.