Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Heddiw, gallaf gadarnhau cyfanswm cyllideb o £238 miliwn i ddarparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2023 ar yr un lefel a ddarparwyd dros y tair blynedd diwethaf. Rwyf hefyd yn gallu cyhoeddi, yn amodol ar y gyllideb sydd ar gael, y bydd BPS yn parhau i gael ei ddarparu ar y lefelau presennol yn 2024, gyda dyraniad dros dro o £238 miliwn.
Nid yw datganiad y Canghellor ar 17 Tachwedd hyd yn oed yn dod yn agos at ddarparu’r cyllid sydd ei angen i ddiogelu cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus a diogelu pobl a busnesau rhag yr heriau aruthrol sy’n cael eu hachosi gan lefelau chwyddiant eithriadol o uchel.
Mae’r sector amaeth hefyd yn wynebu effaith andwyol cytundebau masnach, ac yn eu plith mae cytundeb “nad yw’n fargen dda iawn i’r DU wedi’r cwbl” yng ngeiriau cyn-Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y DU ac yntau wedi helpu i’w sicrhau.
Mae Llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi gwrthod adolygu’r fethodoleg ar gyfer cyllido ffermydd ac wedi gwrthod rhoi i Gymru yr arian y byddai wedi’i gael yn llawn, pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor y byddai Cymru yn cael £252.19 miliwn ar gyfer cymorth amaethyddol ym mlwyddyn ariannol 2022/23 yn lle cyllid Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Mae hynny’n golygu bod ffermwyr Cymru wedi colli £106 miliwn yn rhagor, ar ben y £137 miliwn na ddarparodd y Trysorlys y flwyddyn flaenorol.
Mae methiant parhaus Llywodraeth y DU i addasu lefelau cyllido i ddelio â chostau cynyddol yn gwaethygu effaith eu camreoli economaidd ar ffermwyr yng Nghymru. Mae’r heriau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd yr angen i newid i system newydd o gymorth i ffermydd sy’n decach ac yn hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn fwy effeithiol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i flaenoriaethu ein cyllidebau er mwyn diogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed a chynnal ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach fel yr adlewyrchir yn ein Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24.