Lee Waters, Deputy Minister for Economy and Transport
Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad terfynol ar waith rhaglen Tasglu’r Cymoedd a ddaw i ben ddiwedd tymor y Senedd hon. Mae’r adroddiad yn ystyriaeth onest o’r pum mlynedd diwethaf, gan ddathlu’r cynnydd mawr a wnaed mewn rhai meysydd ond gan rannu rhai o’r heriau y gwnaethom eu hwynebu mewn meysydd eraill.
Un o’r pethau cyntaf wnes i pan gefais fy mhenodi’n gadeirydd y tasglu ddwy flynedd yn ôl oedd chwilio ledled y Cymoedd am arferion da i’w rhannu. Gan adeiladu ar y rhaglen helaeth o gyfarfodydd agored ac ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan Alun Davies AS a Gweinidogion eraill, cynhaliais gyfarfodydd â holl arweinwyr yr awdurdodau lleol yn ardal y tasglu a gofyn iddyn nhw nodi mentrau llwyddiannus yn eu hardaloedd. Roeddem yn awyddus i nodi’r rheini allai wneud gwahaniaeth go iawn a’u rhoi ar waith yn gyflym mewn awdurdodau cyffiniol.
Fe welwch ragor o wybodaeth yn yr adroddiad am y gwaith a wnaed a thestun balchder mawr imi yw’r effaith a gafwyd ar gymunedau mewn amser cymharol fach. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:
- Buddsoddi £12m yn y Cynllun Cartrefi Gwag. Mae dros 600 o geisiadau wedi dod i law, i droi eiddo gwag yn adeiladau defnyddiol ledled y Cymoedd.
- Buddsoddi £7m i ddatblygu 12 Porth Darganfod ledled y Cymoedd, gan helpu Parc Rhanbarthol y Cymoedd i fynd o nerth i nerth.
- Buddsoddi £75k i ddatblygu’r cynllun Alumni peilot ar gyfer 10 ysgol uwchradd yn ardal Tasglu’r Cymoedd. Mae 230 o alumni yn gweithio gyda Gyrfaoedd Cymru i ddatblygu rhwydweithiau â’u cyn-ysgolion, i gynnig help ac arweiniad i ddisgyblion.
- Darparu £2.4m i gefnogi 27 o brosiectau arbrofol yn ardal Tasglu’r Cymoedd i gryfhau’r Economi Sylfaen.
Er bod y gwaith caled sydd wedi’i wneud hyd yma wedi esgor ar lawer o ganlyniadau da, roedd aelodau’r Tasglu’n teimlo ei bod yn bwysig nodi unrhyw wersi a ddysgwyd o’n profiadau a’u defnyddio wrth lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol. O ganlyniad, comisiynodd Llywodraeth Cymru OB3 Research i gynnal adolygiad annibynnol gan holi dros 30 o unigolion. Cafodd arolwg bras o randdeiliaid ei gynnal hefyd yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiadau ar eu canfyddiadau eisoes wedi’u cyhoeddi.
Wrth inni nesu at ddiwedd y rhaglen, rwyf wedi bod yn ymwybodol bod angen sicrhau bod ffrwyth gwaith y tasglu’n goroesi tymor y llywodraeth hon. Rydym wedi gweithio’n galed i ymwreiddio’n gwaith yng nghynlluniau tymor hir Llywodraeth Cymru a thrwy weithio â’n partneriaid. Mae’r tasglu wedi trafod yr hyn a ddylai fod yn ein barn ni, yn flaenoriaeth strategol ar gyfer unrhyw raglen yn y dyfodol, a chafodd cyfarfod â gweinidogion ei gynnal i drafod lle rhaglen o’r fath o fewn y strwythurau presennol. Rydym wedi esbonio’r syniadau hyn yn glir er mwyn i’r llywodraeth nesaf allu eu hystyried.
Does dim gwadu bod mwy eto i’w wneud a bod pandemig COVID-19 ond wedi dwysau’r heriau y mae’r Cymoedd yn eu hwynebu. Ni all y gwaith hwn orffen yn y fan hon. Mae’r atebion i’w cael o fewn y Cymoedd eu hunain ac mae angen i ni i gyd gydweithio’n glos gydag ymroddiad i wneud gwahaniaeth go iawn i bawb sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De.