Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad Llafar i Aelodau (4 Hydref 2011) ar ddyfodol Rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru, addewais lunio Datganiad Ysgrifenedig ar ôl i reoliadau drafft y Comisiwn Ewropeaidd gael eu cyhoeddi. Cyhoeddwyd y pecyn drafft o’r rheoliadau Polisi Cydlyniant ar 6 Hydref ac mae rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) newydd eu cyhoeddi.

Yn ôl y disgwyl, mae’r rheoliadau drafft yn paratoi’r ffordd i’r Comisiwn allu mynnu bod yr Aelod-wladwriaethau yn canolbwyntio’n fwy ar gymryd camau penodol er mwyn cyflawni amcanion ‘Ewrop 2020’, sef twf deallus, cynaliadwy a chynhwysol. Mae pwyslais polisi’r Comisiwn, sydd wedi’i nodi yn ‘Ewrop 2020’, i’w groesawu’n gyffredinol gan ei fod yn ategu llawer o’n polisïau a’n camau gweithredu ni, fel y mae’r “Rhaglen Lywodraethu”, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ei nodi.

Mae pwyslais a chynnwys rheoliadau drafft y Comisiwn, felly, yn fan cychwyn da ar gyfer y trafodaethau, sydd ar fin dechrau. Bydd yn rhaid dod i gytundeb boddhaol cyn y gellir symud ymlaen i gytuno ar unrhyw raglenni yn y dyfodol a’u gweithredu wedyn. Bydd y trafodaethau hyn, a chytuno ar gyllideb ddrafft yr UE ar gyfer 2012-2014, yn aruthrol bwysig os ydym i fod yn barod i ddechrau gweithredu rhaglenni newydd a phrosiectau strategol allweddol ddechrau 2014.

Yn y cyd-destun hwn, rwy’n croesawu’n arbennig bwyslais y Comisiwn ar integreiddio’r Cronfeydd Strwythurol yn well (Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), y Gronfa Cydlyniant) â’r cronfeydd gwledig (Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)) a’r cronfeydd yn ymwneud â physgodfeydd (Cronfa Forol a Physgodfeydd Ewrop (EMFF)) drwy Fframwaith Strategol Cyffredin. O’i wneud yn dda, bydd hyn yn gyfle i’w gwneud yn haws cael gafael ar arian a gwella sut caiff rhaglenni eu gweithredu, drwy gydweithio’n agosach. Mae cynigion y Comisiwn hefyd yn cynnig rhai arwyddion calonogol o ran symleiddio a chysoni’r rheolau cymhwysedd. Bydd systemau rheoli mwy cymesur, yn eu tro, yn hyrwyddo dulliau gweithredu mwy hyblyg. Mae gen i ddiddordeb penodol hefyd yn ymgyrch y Comisiwn i ddefnyddio mwy ar ‘Offerynnau Peiriannu Ariannol’, ac mae hyn yn fy nghalonogi. Rwy’n edrych ymlaen at ystyried sut gallwn sicrhau’r gwerth mwyaf o fuddsoddiadau ad-daladwy o’r fath – rydym wedi arloesi’n llwyddiannus gyda rhai o’r rhain yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. 

Mae dau o’m prif flaenoriaethau ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol yn parhau, sef ceisio sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf posibl, fel y gallwn deilwra rhaglenni yn ôl ein hanghenion penodol ni yng Nghymru, a hefyd symleiddio rhaglenni ymhellach: o ran symleiddio, er bod y Comisiwn wedi cynnig mesurau newydd gyda’r nod clir o symleiddio trefniadau a phrosesau cyfredol, eto i gyd mae yna nifer o ofynion ychwanegol. Nid wyf wedi fy ar gyhoeddi hyd yn hyn y bydd y rhain yn cynnig gwerth ychwanegol. Er enghraifft, gallai cynigion y Comisiwn ar gyfer ‘fframwaith perfformiad’ arwain rhai rhanbarthau i weithredu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar ddatrys materion bach hawdd yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion mwyaf difrifol y mae’r rhanbarthau hynny yn eu hwynebu. Hefyd, nid yw’n glir sut byddai telerau macro-economaidd arfaethedig y Comisiwn yn gwella perfformiad. Mae yna risg y gallent gosbi’r rhanbarthau a’r Aelod-wladwriaethau hynny y mae angen y cyllid fwyaf arnynt.

Bydd gwaith partneriaeth ar draws Ewrop, y DU ac yng Nghymru yn allweddol i ddatblygu a gweithredu rhaglenni yn y dyfodol. Felly, yn ogystal â chydweithio’n agos â’r prif ffigurau ar lefel yr UE a’r DU, rwyf  hefyd wedi sefydlu Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd, fel y gall ein prif bartneriaid strategol yng Nghymru ein helpu i ystyried cyfeiriad, cynnwys a rheolaeth unrhyw raglenni newydd yng Nghymru. Mae eisoes wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, a’r mis nesaf byddaf yn rhoi cyfle i’n holl bartneriaid yng Nghymru gael dweud eu dweud ar strategaeth y dyfodol a’r blaenoriaethau pwysicaf i Gymru. Byddaf hefyd yn gwrando ar safbwyntiau Aelodau’r Cynulliad ac rwy’n addo trefnu trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar y pwnc ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

Unwaith bydd yr Aelodau a’n Partneriaid wedi helpu i lywio cyfeiriad strategol rhaglenni Ewropeaidd yn y dyfodol, bydd angen inni ddatblygu rhaglenni drafft newydd, a’r bwriad yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y rhain tuag at ddiwedd 2012 cyn inni ddechrau trafod y manylion gyda’r Comisiwn.

Rwy’n benderfynol y dylem ddadlau dros y rhaglenni gorau posibl i Gymru: rhaglenni i helpu i weithredu ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol. Bydd rhoi’r rhaglenni hyn ar waith, yn ei dro, yn ein helpu’n fawr i gyrraedd yr amcanion a nodir yn ‘Ewrop 2020’. Drwy ddatblygu a gweithredu rhaglenni mewn partneriaeth wirioneddol ac ystyrlon ledled Cymru, rwyf am i’r rhain fod yn rhaglenni sy’n unigryw i Gymru, gan weithio dros Gymru gyfan.