Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddais ein hymateb i Gais Llywodraeth Cymru am Dystiolaeth ar Ynni Adnewyddadwy dan Berchnogaeth Leol, a oedd yn ymrwymo i gyhoeddi datganiad sefyllfa ar y mater. Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi’r datganiad polisi hwn, ‘Perchnogaeth leol ar gynhyrchu ynni yng Nghymru – er budd Cymru heddiw a chenedlaethau’r dyfodol’ sy’n egluro ein safbwynt.
Mae hwn yn gyfnod o gyfle anferth a newid heb ei debyg ar gyfer y system ynni. Mae ein heconomi’n cael ei gweddnewid gan angen cyfunol i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Mae gan Gymru etifeddiaeth hir fel pwerdy yn y DU ac rydym yn uchelgeisiol iawn ynghylch dyfodol carbon isel ffyniannus. Er mwyn manteisio ar y cyfnod hwn o newid, mae’n rhaid i Gymru arwain mewn ffordd uchelgeisiol, gan nodi a sicrhau manteision y newid i Gymru.
Mae’n rhaid i ni ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn lle tanwydd ffosil ac mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond os ydym yn cadw ei fudd y bydd hyn yn dod â ffyniant i Gymru. Rwyf wedi gosod disgwyliad i bob prosiect ynni newydd yng Nghymru gael elfen o berchnogaeth leol o leiaf o 2020 ymlaen. Mae’r datganiad polisi hwn yn atgyfnerthu’r angen i ddatblygwyr weithio gyda’r cymunedau sy’n cynnal prosiectau ynni i sicrhau eu bod yn cadw budd o gynhyrchu yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau, a fydd ar gael ddechrau’r gwanwyn.
Ers 2010, mae cynhyrchu trydan adnewyddadwy wedi treblu yng Nghymru. Yn 2018, cynhyrchodd generaduron adnewyddadwy yng Nghymru drydan a oedd yn gyfwerth â 50% o ddefnydd Cymru. Ein targed yw cynhyrchu’r hyn sy’n gyfwerth â 70% o ddefnydd trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.
Ar ddiwedd 2018 roedd 778MW o gapasiti ynni adnewyddadwy Cymru dan berchnogaeth leol, yn erbyn ein targed o 1 GW. Mae’r hinsawdd polisi, sydd wedi’i bennu gan Lywodraeth y DU, yn cyflwyno heriau ar gyfer buddsoddi pellach mewn ynni adnewyddadwy. Fy nod, fodd bynnag, yw i Lywodraeth Cymru, datblygwyr ynni a phobl Cymru gydweithio i ddarparu ynni adnewyddadwy a chroesawu’r cyfleoedd a’r manteision sydd i’w cael o newid i economi carbon isel.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chymunedau, busnesau, unigolion, y sector cyhoeddus a datblygwyr i gynyddu ffyniant drwy annog mwy o gynhyrchu ynni dan berchnogaeth leol yng Nghymru.