Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyhoeddi ei Bapur Safbwynt. Mae’r Papur yn nodi canfyddiadau cychwynnol y Comisiwn ac yn crynhoi’r drafodaeth ar dystiolaeth mae’r Comisiwn wedi ei chasglu yn ystod y flwyddyn ers ei sefydlu.
Fe sefydlais y Comisiwn yn sgil cyhoeddi adroddiad Ail Gartrefi: Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru. Amlygodd yr adroddiad hwnnw fod ein cymunedau Cymraeg yn wynebu newidiadau strwythurol yn sgil penderfyniad y Deyrnas Gyfunol i adael yr Undeb Ewropeaidd ac effeithiau Pandemig COVID-19. Bwriad y Comisiwn yw ein helpu i ddatblygu polisïau’r dyfodol ar gyfer cynnal ein hiaith yn y cymunedau hynny a ystyrir yn draddodiadol yn gadarnleoedd iddi.
Mae'r Comisiwn yn cynnwys deg aelod annibynnol ac yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks.
Mae’r Papur Safbwynt hefyd yn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 a ddangosodd ostyngiad yn y niferoedd sy’n gallu’r Gymraeg ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Roedd y gostyngiad ar ei amlycaf mewn ardaloedd a ystyriwyd yn gadarnleoedd y Gymraeg. Mae hwn yn peri pryder arbennig gan fod ei dyfodol fel iaith gymunedol yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor yr iaith ar draws Cymru.
Rwyf yn croesawu Papur Safbwynt y Comisiwn ac yn diolch i Dr Brooks, ac i aelodau’r Comisiwn, am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Mae’r Papur yn amlygu fod trafodaethau manwl ar feysydd pwysig i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg wedi digwydd. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod yr Alwad am Dystiolaeth a gynhaliwyd yn gynharach eleni wedi ennyn ymateb sylweddol—gan bron i 200 o unigolion a rhanddeiliaid. Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd wedi bwydo mewn i’r Papur Safbwynt ac rwyf yn ddiolchgar i bawb am rannu o’u hamser i ymateb i’r Alwad am Dystiolaeth.
Mae’r Comisiwn wedi edrych yn fanwl ar yr heriau sy’n ein hwynebu ni wrth i ni weithio tuag at Cymraeg 2050-Miliwn o siaradwyr. Er mwyn i gymunedau Cymraeg ffynnu, mae angen diogelu cynaladwyedd ein cymunedau drwy gynnig cyfleoedd gwaith da a chyflenwad o dai sy’n fforddiadwy i’w prynu a’u rhentu.
Nid bwriad y Papur Safbwynt yw cynnwys argymhellion polisi, yn hytrach mae’n cyflwyno canfyddiadau a chasgliadau rhagarweiniol y Comisiwn. Bydd hyn yn llywio cam nesaf gwaith y Comisiwn pan fydd yn ystyried meysydd polisi penodol yn fanylach.
Mae’r Papur yn amlinellu’r angen i dargedu ymyriadau polisi mewn rhai rhannau o Gymru er mwyn cefnogi a chynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Awgrymir gwneud hyn drwy ganiatáu i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddynodi 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’. Ardaloedd yw'r rhain lle mae’r Gymraeg o dan bwysau fel iaith gymunedol. Nid yw’r cysyniad o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn newydd, ond mae’r Comisiwn yn teimlo bod dynodi a diffinio ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu polisi er mwyn rhoi y sylfaen cryfach i’n hiaith ni ffynnu yn y cymunedau hynny.
Rwyf wedi bod yn glir ac mae’r Comisiwn hefyd o’r farn nad ymgais i greu ardaloedd gwarchodedig tebyg i fodel Gaeltacht Iwerddon yw’r bwriad. Yn hytrach, y cysyniad yw cefnogi a chynnal ein hiaith ni mewn rhai ardaloedd ag ynddyn nhw ddwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg gan ddatblygu ymyraethau polisi penodol yno mewn rhai meysydd sosio-economaidd a chymdeithasol-ieithyddol.
Yn sgil cyhoeddi’r Papur Safbwynt byddaf yn cynnal cyfres o sesiynau trafod, a bydd yr un gyntaf â grŵp o bobl ifanc heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyhoeddi adroddiad ym mis Awst 2024. Bydd yr adroddiad hwn yn cynnig argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru.