Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd ar gyfer ymgynghoriad - gan gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Datblygwyd y Papur Gwyn yn wreiddiol fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio blaenorol gyda Phlaid Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch i'r Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian AS, am ei hymrwymiad a'i chyfraniad at ei ddatblygiad. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid sydd hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Papur Gwyn.
Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i'w alw'n gartref yn uchelgais allweddol gan y Llywodraeth hon. Mae'r egwyddor bod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr. Rwy'n falch o'r cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud tuag at ddarparu tai digonol i bobl Cymru - mae hyn yn cynnwys gwella ansawdd a safonau tai; cryfhau hawliau tenantiaid; darparu mwy o gartrefi cymdeithasol; cyflwyno mesurau eang i reoli niferoedd ail gartrefi yn y dyfodol; a thrawsnewid ein hagwedd tuag at ddigartrefedd. Rydym hefyd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, gyda buddsoddiad sylweddol parhaus i ddarparu mwy o gartrefi cymdeithasol, ac rydym yn datblygu deddfwriaeth uchelgeisiol a phellgyrhaeddol i gefnogi ein huchelgais i ddod â digartrefedd i ben.
Mae'r cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn nodi blociau adeiladu pellach ar ein llwybr blaengar tuag at sicrhau tai digonol i bobl Cymru ac mae wedi cael ei lywio gan y dystiolaeth a gawsom mewn ymateb i'n hymgynghoriad Papur Gwyrdd y llynedd. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad neu fynychu un o'r digwyddiadau ymgynghori. Amlygodd yr ymatebion a'r dystiolaeth a ddarparwyd, bwysigrwydd diffinio tai digonol yn briodol yng nghyd-destun Cymru, a sut y gellir gwireddu hynny dros amser. Felly, mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer datblygu strategaeth dai hirdymor i ddarparu fframwaith clir a mesuradwy i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai digonol i bawb.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- cynigion i ddatblygu deddfwriaeth yn nhymor y Senedd nesaf, i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio strategaeth dai i fynd i'r afael â thai digonol, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer monitro, adrodd ac adolygu.
- ystyried gosod dyletswydd ar gyrff sector cyhoeddus diffiniedig i roi sylw i'r strategaeth dai wrth gyflawni eu swyddogaethau tai.
Mae'r Papur Gwyn hefyd yn nodi nifer o gynigion sydd â'r nod o wella fforddiadwyedd, ffitrwydd i fod yn gartref, a hygyrchedd yn y Sector Rhentu Preifat – y mae pob un ohonynt yn agweddau allweddol ar dai digonol. Mae'r cynigion hefyd wedi cael eu llywio gan ymgynghoriad y Papur Gwyrdd, a ddangosodd yn glir bod angen gwella cadernid data rhent fel cam cyntaf i ddeall y cyd-destun lleol yn well a sicrhau ein bod yn targedu ymyriadau polisi posibl yn effeithiol yn y dyfodol.
Mae'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys:
- cynigion i wella data rhent, gan gynnwys gofyniad ar landlordiaid/ac asiantwyr i ddarparu data rhent i Rhentu Doeth Cymru;
- datblygu map rhent gofodol i ddangos data rhent ardal leol;
- cynigion ar sut i ddangos bod eiddo yn ffit i fod yn gartref;
- cynigion i gefnogi pobl sy'n rhentu gydag anifeiliaid anwes;
- canllawiau ynghylch gwarantwyr rhent; ac
- archwilio'r potensial ar gyfer rhyddhad cyfraddau preswyl uwch Treth Trafodiadau Tir ('TTT') os yw'r eiddo'n cael ei gofrestru ar Gynllun Lesio Cymru, Llywodraeth Cymru
Mae'r Papur Gwyn hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen ar ein taith flaengar tuag at ddarparu tai digonol i bawb yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â'r ystod eang o fesurau sy'n cwmpasu darparu tai digonol tai.
Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 31 Ionawr 2025.