Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddais Fap Cyfleoedd Gwres Dŵr Pyllau Glo Cymru ac adroddiadau technegol. 

Rydym wedi etifeddu pyllau glo nas defnyddir o hanes glofaol Cymru.  Lle y bo hynny'n addas, mae'n bosibl y bydd ein rhwydwaith hanesyddol o byllau glo tanddaearol bellach yn cynnig ffynhonnell wres ddiogel, carbon isel, adnewyddadwy ar gyfer adeiladau mewn ardaloedd meysydd glo. Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni a ddefnyddir yng Nghymru, gallai gwres o ddŵr pyllau glo wella cynaliadwyedd y lleoedd lle'r ydym yn byw ac yn gweithio. Gallai gwres o ddŵr pyllau glo hefyd chwarae rhan yn ein hymdrechion angenrheidiol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chefnogi datgarboneiddio.

Gwnaethom gomisiynu'r Awdurdod Glo i ymchwilio i'r potensial hwn i gael gwres o ddŵr o byllau glo nas defnyddir yng Nghymru, ac i gynhyrchu "map cyfleoedd gwres dŵr pyllau glo" i roi gwybod i awdurdodau lleol a datblygwyr am y cyfleoedd a'r lleoliadau posibl ar gyfer cynlluniau gwres dŵr pyllau glo. 

Roedd gwaith yr Awdurdod Glo yn cynnwys asesu'r holl byllau glo y gwyddys amdanynt yng Nghymru a allai bellach gynnwys dŵr sy'n cael ei gynhesu gan brosesau naturiol. Wedyn gwnaethant gynllunio map yn cynnwys holl ardaloedd yr awdurdodau lleol, gan gategoreiddio pyllau glo yn gyfleoedd "Da", "Posibl" a "Heriol" ar gyfer datblygiadau gwres dŵr pyllau glo.

Yn ogystal, gwnaethant gynhyrchu map yn dangos lleoliadau lle mae dŵr pyllau glo eisoes yn dod i'r wyneb drwy ollyngiadau ysgogir gan ddisgyrchiant a chynlluniau trin dŵr pyllau glo.  Mae lleoliadau o'r fath yn cynnig potensial arbennig o gost-effeithiol ar gyfer cynlluniau gwresogi. 

Mae adroddiadau technegol hefyd wedi cael eu paratoi ar gyfer 12 awdurdod lleol, sy'n tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gwres o byllau glo. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â MapDataCymru. 

Mae'r adroddiadau'n darparu gwybodaeth a data defnyddio, yn rhad ac am ddim, ar gyfer datblygwyr sydd â diddordeb mewn archwilio'r cyfleoedd ar gyfer datgarboneiddio a'r cyfleoedd economaidd a gynigir gan wres o byllau glo. 

Mae'r adroddiadau ar wres o byllau glo yn rhan o becyn gwybodaeth y byddwn yn ei gyhoeddi dros y misoedd nesaf sydd, gyda'n Strategaeth Wres ehangach, Cynlluniau Ynni Ardal Leol, a Chyllidebau Carbon Sero Net Cymru, yn gwneud yn glir ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a thwf economaidd cynaliadwy drwy ddarparu cyfeiriad polisi a gwybodaeth glir i hwyluso penderfyniadau gwybodus ynghylch datblygiadau. 

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.