Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Gorffennaf, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith o ddatblygu system fandio ar gyfer ysgolion yng Nghymru fel rhan o gyfres o gamau polisi a gynlluniwyd i roi ffocws mwy eglur i ni ar berfformiad a chynnydd ysgolion. Dywedais ar yr adeg honno y byddai ysgolion uwchradd yn derbyn manylion am fandio dros dro, yn seiliedig ar ddata hyd at a chan gynnwys data arholiadau 2010, a hynny mor fuan yn y tymor newydd ag sy'n bosibl.
Yn unol â'r ymrwymiad hwnnw cyhoeddwyd data bandio dros dro ar gyfer yr ysgolion ar 15 Medi 2011.
Yr oedd y bandio yn seiliedig ar y dadansoddiad o bedwar grŵp o ddata yn ymwneud â pherfformiad diweddar, cynnydd a pherfformiad gan roi ystyriaeth i lefelau amddifadedd a ffactorau economaidd-gymdeithasol eraill. Mae'r pedwar grŵp o ddata a'r dangosyddion a ddefnyddiwyd yn adlewyrchu'n blaenoriaethau o ran llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysgol.
Data dros dro fydd yn cael eu cyhoeddi'r mis hwn a chânt eu diweddaru yn ddiweddarach yn y tymor unwaith y byddwn wedi dilysu data'r arholiadau sy'n cyfateb i gofnodion y disgyblion. Ar yr adeg honno ychwanegir y ddau ddangosydd nad oedd ar gael ar gyfer y model dros dro.
Yr wyf wedi dweud ar hyd yr amser y byddwn yn dryloyw am y system fandio o ran y fethodoleg a ddefnyddir a'r deilliannau ar gyfer ysgolion. Fodd bynnag, data dros dro yw'r rhain yn unig, nid ydynt yn gyflawn nac ychwaith yn cynnwys yr wybodaeth fwyaf gyfredol. Mae data dros dro yn ddefnyddiol i ysgolion a'u hawdurdodau lleol wrth iddynt gynllunio, adrodd yn ôl i rieni a phennu targedau.
Ar ôl cyhoeddi'r wybodaeth fandio derfynol ddechrau Rhagfyr, gallaf gadarnhau y bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddwn yn rhoi manylion am union ffurf a lleoliad yr wybodaeth honno maes o law.
Unwaith eto, rwy'n pwysleisio NAD proses ar gyfer labeli ysgolion, enwi a beirniadu na chreu tabl cynghrair a fydd yn achosi rhwyg rhwng ysgolion yw'r system fandio. Mae'n ymwneud â grwpio’n hysgolion yn unol âg amrywiaeth o ffactorau er mwyn pennu blaenoriaethau ar gyfer cymorth gwahaniaethol a phennu'r rheiny y gall y sector ddysgu oddi wrthynt.
Bydd y gwaith o lunio model bandio ar gyfer ysgolion cynradd yn parhau drwy gydol y tymor.
Sut y cafodd bandiau’r ysgolion uwchradd eu cyfrifo
Mae'r system fandio yn defnyddio perfformiad cymharol ysgolion ar draws pedwar grŵp data i ddosbarthu ysgolion i un o bum band
Ysgolion sydd â data sy'n dangos y perfformiad a'r cynnydd cryfaf yn gyffredinol ar draws y mesurau yw ysgolion Band 1. Yr ysgolion hynny sy'n dangos y perfformiad a'r cynnydd gwannaf o'u cymharu ag ysgolion eraill yw ysgolion Band 5.
Mae'r model bandio yn defnyddio pedwar grŵp o ddata;
- Trothwy lefel 2 gan gynnwys TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg iaith gyntaf, Saesneg a mathemateg. Caiff perfformiad diweddar, perfformiad yn unol â phrydau ysgol am ddim, cynnydd dros 3 blynedd a gwerth ychwanegol eu defnyddio yn y grŵp hwn.
- Y sgôr pwyntiau wedi'i chapio yw'r pwyntiau cyfartalog fesul dysgwr ar gyfer pob cymhwyster ar unrhyw radd a gyflawnwyd gan roi ystyriaeth i gyfanswm y dysgu hyd at yr hyn sydd gyfwerth â 8 TGAU. Defnyddir perfformiad diweddar a pherfformiad yn unol â phrydau ysgol am ddim yn y grŵp. Yn y broses fandio derfynol bydd cynnydd dros 2 flynedd a gwerth ychwanegol yn cael eu hychwanegu i'r grŵp hwn.
- Defnyddir sgôr pwyntiau cyfartalog fesul disgybl ar gyfer Saesneg a Chymraeg iaith gyntaf a mathemateg yn unol â phrydau ysgol am ddim yn yr ysgol ar gyfer y grŵp hwn.
- Cynrychiolir presenoldeb gan lefelau absenoldeb yn unol â phrydau ysgol am ddim a chynnydd dros 3 blynedd.
Caiff pob mesur ym mhob grŵp ei rancio'n gymharol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru. Caiff perfformiad cymharol ei 'sgorio' yn unol â’r chwarter y mae'n perthyn iddo. Mae chwarter 1 yn cynrychioli perfformiad ysgolion sydd ymhlith y 25% uchaf yng Nghymru ac mae chwarter 4 yn cynrychioli perfformiad ysgolion sydd ymhlith y 25% isaf.
Caiff y sgorau eu cyfansymio; yr isaf yw'r sgôr, y gorau yw'r perfformiad cymharol. Mae terfynau'r band yn seiliedig ar yr ystod o sgorau posibl.