Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw yw diwrnod cyhoeddi dau adroddiad – ‘Gwerthuso’r broses - Adroddiad Cryno’ a ‘Gwerthuso’r broses - Hawdd ei ddeall’ – a gomisiynwyd fel rhan o’r broses o werthuso gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf).

Hyd yma, mae’r gwerthusiad wedi taflu gwir oleuni ar y ffordd y mae’r Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae hefyd wedi darparu tystiolaeth hanfodol ynglŷn â’r hyn sydd wedi gweithio’n dda wrth fynd ati i weithredu’r Ddeddf a pha waith y mae angen parhau ag ef. 

Rwy’n croesawu’n arbennig yr enghreifftiau cadarnhaol a geir yn yr adroddiadau o brofiadau pobl o’r broses o roi’r ddeddfwriaeth ar waith.  Fodd bynnag, roedd gweithredu’r Ddeddf yn nodi dechrau cyfnod o newid ledled y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n rhaid cynnal a pharhau â'r gwaith hwn.  Mae hyn o’r pwys mwyaf oherwydd yr effaith sylweddol y mae Covid 19 wedi’i chael, ac yn parhau i’w chael, ar ein darpariaeth gofal cymdeithasol ar draws Cymru.  Mae deall yr effaith hon yn hanfodol.  I gyflawni hyn, rwyf wedi gofyn am ymestyn y prosiect gwerthuso am 12 mis er mwyn i ni allu archwilio’r effaith y mae hyn wedi ei chael ar weithredu’r Ddeddf a’r effaith y mae wedi ei chael ar bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl sydd angen cefnogaeth.

Mae proses werthuso ar y raddfa hon yn hanfodol er mwyn i bawb ohonom ddeall yr effaith y mae ein polisïau a’n deddfwriaeth yn ei chael ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.  Mae gennym oll ran i chwarae i sicrhau bod ein deddfwriaeth yn rhan annatod o’n harferion gweithio, er mwyn gwneud yn siŵr bod pob person a phob gofalwr sy’n cael cymorth gofal cymdeithasol yn cael profiadau o’r safon gorau un. 

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses werthuso hyd yn hyn. Mae’n ddarn pwysig o waith gan ei fod yn hanfodol ein bod yn deall sut mae’n deddfwriaeth yn gweithio, er mwyn i ni allu parhau i ddiwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru a chefnogi llesiant pob person ar draws Cymru sydd angen gofal a chymorth yn llawn, ynghyd â phob gofalwr di-dâl sydd angen cefnogaeth, er mwyn iddynt lwyddo i gael y canlyniadau sydd bwysicaf iddynt.