Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r sylfeini ar gyfer iechyd a llesiant yn dechrau yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a dyddiau cynnar plentyndod. Mae menywod a theuluoedd yng Nghymru yn haeddu cael eu cefnogi a mwynhau profiad cadarnhaol o ofal mamolaeth ar yr adeg hynod bwysig hon yn eu bywyd. Dyma yw profiad y rhan fwyaf o fenywod a phlant yng Nghymru ond, fel y gwelwyd yn achos llawer o deuluoedd yng nghyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf, rwy'n ymwybodol hefyd nad yw hyn yn wir i bawb.
Gan adeiladu ar nodau 'Gweledigaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (2011)', mae gwaith wedi bod ar y gweill dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu Gweledigaeth bum mlynedd newydd. Gweledigaeth fydd hon i gyfarwyddo a llywio agwedd deg a darbodus at ddarpariaeth gofal mamolaeth ledled Cymru i bob menyw waeth pa mor gymhleth yw ei hachos, ac i sicrhau bod timau yn cydweithio. Yn ogystal â'r gwaith hwn, yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Colegau Brenhinol ar wasanaethau mamolaeth cyn Fwrdd Iechyd Cwm Taf, mae uwch-fydwragedd, obstetryddion, anesthetyddion a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd o bob bwrdd iechyd ledled Cymru wedi dod ynghyd i sicrhau bod y Weledigaeth hefyd yn ystyried y camau gweithredu a argymhellwyd gan y tîm adolygu.
Mae'r Weledigaeth hon yn ganlyniad i lawer o bobl yn dod at ei gilydd i adnewyddu ein model o ofal mamolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth bresennol sydd ar gael, yr arferion gorau a’r adborth gan staff rheng flaen ar sut fyddai orau i wella gwasanaethau presennol. Mae ymgysylltu â mamau a theuluoedd wedi bod yn allweddol i ddatblygu'r Weledigaeth newydd hon. Roedd yr arolwg a gomisiynwyd yn 2017, 'Eich Babi - Eich Gofal', yn casglu barn menywod o'u profiadau o ofal mamolaeth yng Nghymru ac roedd yn cynnwys barn mwy na 4000 o famau newydd a roddodd enedigaeth yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae'r adroddiad yn cyflwyno darlun o brofiadau menywod wrth gynllunio ar gyfer yr enedigaeth, yn ogystal â'u profiadau yn ystod y cyfnod esgor. Drwy’r arolwg, cawsom ddarlun clir o'r hyn y mae menywod yn ei werthfawrogi mewn gofal mamolaeth, a’r newidiadau i wasanaeth sydd eu hangen er mwyn cyflenwi gwasanaethau diogel, effeithiol, o ansawdd.
I ddiwallu dyheadau menywod a'u teuluoedd ledled Cymru, nod y Weledigaeth yw cynnig dull darbodus o roi darpariaeth gofal mamolaeth, gan ddarparu gwasanaethau, arbenigedd ac opsiynau i fenywod sy’n eu galluogi i gael y profiadau a chanlyniadau gorau wrth roi genedigaeth. Drwy ddefnyddio dull ehangach o fynd i'r afael â materion iechyd y cyhoedd mewn byrddau iechyd ac ar lefel y boblogaeth yn ehangach, mae’r Weledigaeth yn ceisio cefnogi menywod i fod yn iach cyn ac yn ystod beichiogrwydd a'u galluogi i roi genedigaeth yn yr amgylchedd y maen nhw'n ei ddewis. Gall hyn helpu i leihau effaith anghydraddoldebau a all arwain at oblygiadau iechyd tymor hwy i deuluoedd, gan sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i famau, babanod a chymunedau.
Mae'r Weledigaeth yn rhoi map llwybr i ni ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel sy'n sicrhau gwell iechyd a lles i famau a babanod yn y tymor byr, canolig a hir. Megis dechrau y mae'r gwaith, fodd bynnag, ac wedi i'r Weledigaeth gael ei lansio bwriedir parhau i ddod â chlinigwyr, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, menywod a'u teuluoedd ynghyd i sicrhau bod dyheadau'r Weledigaeth hon yn cael eu cyflawni dros y bum mlynedd nesaf. Bydd ffrydiau gwaith allweddol sy'n gysylltiedig â themâu'r Weledigaeth yn cael eu sefydlu i sicrhau bod dyheadau yn cael eu newid yn gamau gweithredu ar lefel genedlaethol ac ar lefel byrddau iechyd sydd ag iddynt ganlyniadau mesuradwy a bod camau gwerthuso parhaus yn cael eu rhoi ar waith.
Mae Gofal Mamolaeth yng Nghymru – Gweledigaeth 5 Mlynedd ar gyfer y Dyfodol i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod: