Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, sef ein cynllun sy'n disgrifio sut y byddwn yn cyflawni ein cyllideb garbon gyntaf (2016-2020). Mae'r Cynllun yn disgrifio 100 o bolisïau a chynigion sydd wedi'u rhannu yn ôl portffolios. Maent oll yn tystio i ymrwymiad y Cabinet i gyflymu'r broses o drosglwyddo i economi carbon isel o fewn y blynyddoedd nesaf.
Mae'r Cynllun yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i leihau allyriadau a throsglwyddo i economi carbon isel, gan sicrhau manteision ehangach i Gymru a chreu cymdeithas sy'n fwy teg, yn fwy iach ac yn fwy cyfartal. Bydd yn rhaid i'r Llywodraeth, busnesau a'r gymdeithas yn ehangach weithredu ar y cyd er mwyn cyflawni hyn.
Mae'r Cynllun yn dwyn ynghyd 76 o ddarnau presennol o bolisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r UE lle y mae datgarboneiddio wedi'i integreiddio un ai fel canlyniad uniongyrchol neu fel mantais ehangach. Mae rhai o'r rhain yn bolisïau newydd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'u cyhoeddi yn ystod cyfnod y gyllideb, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a'r Targedau Ynni Adnewyddadwy, a rhai'n bolisïau sydd wedi'u diwygio gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru lle y mae rhan ganolog i ddatgarboneiddio erbyn hyn.
Rydym eisoes hanner ffordd trwy ein cyllideb garbon gyntaf ac mae'r cynllun hwn yn rhoi llawer o sylw i'r hyn y bydd angen ei wneud yn y dyfodol. Rydym felly wedi cynnwys 24 o gynigion er mwyn ystyried a datblygu camau polisi posibl yn y dyfodol sy'n mynd i'r afael â'r syniadau a ddeilliodd o'n hymgynghoriad yn 2018. Byddwn yn cyhoeddi ymateb llawn Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad yn nes ymlaen eleni.
Mae'n hymdrechion ym maes polisi yn berthnasol i bob sector ac maent yn annog arweinyddiaeth a chydweithredu a hefyd yn annog cynhwysiant ar bob lefel. Mae llawer o'r polisïau yn canolbwyntio ar hwyluso'r trosglwyddiad i economi carbon isel, gan sicrhau trosglwyddiad deg a chyfiawn a sicrhau'r cyfleoedd llesiant gorau posibl i bawb. Byddaf yn sefydlu grŵp a fydd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Weinidogion Cymru ynghylch hynt y gwaith o drosglwyddo i economi carbon isel. Er bod y cynllun yn canolbwyntio llawer iawn ar gamau gweithredu gan sectorau mae'n bwysig pwysleisio y bydd angen sicrhau trawsnewid ar draws pob sector a phob lefel o gymdeithas. Rwyf felly'n falch iawn mai Prifysgol Caerdydd fydd corff arweiniol y DU a fydd yn gyfrifol am sefydlu canolfan newydd ar gyfer Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol (CAST). Dyma fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a fydd yn darparu £5 miliwn ar gyfer y Ganolfan hon am o leiaf 5 mlynedd.
Er mwyn cyflawni ein nodau mae'n rhaid i'r sector cyhoeddus, busnesau a hefyd gymunedau fabwysiadu swyddogaethau arwain. Mae gwaith ymchwil yn sail i'm huchelgais o gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral, ac mae'r gwaith yma wedi tynnu sylw at y gwaith da sy'n mynd rhagddo o fewn y sector cyhoeddus a hefyd y cyfleoedd pellach ar gyfer gweithredu a sicrhau manteision i Gymru. Mae nifer o'r camau gweithredu pwysig yn berthnasol i bob rhan o'r Llywodraeth. Mae gan fusnesau swyddogaeth allweddol o ran datgarboneiddio. Mae'n Contract Economaidd newydd yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus at ddiben cymdeithasol. Golyga hyn fod cymorth yn cael ei gynnig ar gyfer ehangu busnesau yn gyfnewid am gymorth gan fusnesau ar gyfer mynd i'r afael â rhai o heriau ein gwlad. Rwyf hefyd yn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth gymunedol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £4 miliwn yn ychwanegol heddiw i Gronfa Ynni Lleol Llywodraeth Cymru. Bydd yr arian ychwanegol yma'n sicrhau bod modd i fwy o brosiectau cymunedol gael eu cynnal. Rydym yn ehangu'r dystiolaeth sydd ar gael er mwyn sicrhau bod ein cartrefi presennol a'n cartrefi newydd yn fwy effeithlon o ran ynni. Mae'n rhaglenni ôl-osod hefyd yn helpu i leihau allyriadau a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella iechyd a sgiliau lleol. Rydym yn datgarboneiddio ein system drafnidiaeth drwy ganolbwyntio ar annog newid moddol tuag at deithio mwy cynaliadwy a chefnogi'r cynnydd yn y defnydd o gerbydau allyriadau isel. Rydym yn cynyddu ein storfa o garbon drwy ein gweithgareddau creu coetiroedd ac rydym wedi diwygio ein Strategaeth Goetiroedd, gan gynnig rhagor o gyllid a chyfarwyddyd. Rydym hefyd yn diwygio ein polisi rheoli tir ar sail ein polisïau gwastraff llwyddiannus er mwyn symud tuag at economi gylchol.
Mae anelu at greu economi carbon isel yn cynnig cyfleoedd anferthol i greu economi fyrlymus a chymdeithasol-gyfiawn. Er bod Brexit yn creu ansicrwydd, mae Llywodraeth Cymru'n glir yn ei meddwl ei bod trwy ddatgarboneiddio yn rhoi'r lle amlycaf a blaenaf i les ein pobl, iechyd ein heconomi ac i ddiogelu a chyfoethogi'n hamgylchedd naturiol. Mae'n gyfnod tyngedfennol i Gymru. Rydym bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda'n holl bartneriaid, yma ac ar y llwyfan rhyngwladol, i wynebu her hinsawdd sy'n newid.