Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Fel y bydd Aelodau o’r Senedd yn ymwybodol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau Datganoledig eraill i ddatblygu fframweithiau cyffredin ar gyfer sawl maes polisi yr oedd y dull polisi cyffredinol ynddynt yn cael ei gytuno’n flaenorol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd, pan oedd y DU yn un o Aelod-wladwriaethau’r UE.
Fel sarn o'r broses hon, datblygwyd set o fframweithiau dros dro yn y cyfnod cyn diwedd y cyfnod pontio. Mae pob llywodraeth wedi bod yn gweithio drwy’r broses gymeradwyo ar gyfer y fframweithiau dros dro hyn. Mae’r llywodraethau nawr mewn sefyllfa i gyhoeddi pedwar o’r fframweithiau dros dro, sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gweinidogion portffolios a’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ym mhob un o’r pedair gwlad.
Mae’r pedwar fframwaith dros dro hyn yn ymwneud â’r meysydd canlynol:
- Safonau Bwyd: Labelu a Chyfansoddiad
- Caffael Cyhoeddus
- Diogelwch ac Ansawdd Gwaed
- Diogelwch ac Ansawdd Organau, Meinweoedd a Chelloedd
Mae dogfennau’r fframweithiau dros dro ar gael yn:
https://www.gov.uk/government/publications/public-procurement-provisional-common-framework
Mae’r dogfennau hyn yn cynrychioli’r sefyllfa fel yr oedd hi ar ddiwedd 2020 – gan felly adlewyrchu adeg benodol yn eu datblygiad a derbynnir bod angen gwaith pellach cyn i’r llywodraethau allu eu cymeradwyo’n derfynol. Fe’u rhennir yn awr er mwyn tryloywder, ac nid i wahodd craffu llawn arnynt ar hyn o bryd.
Mae’r llywodraethau’n cynnig y dylai dogfennau’r fframweithiau dros dro hyn gael eu datblygu ymhellach (er enghraifft, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn llawn) yn ystod eleni. Bydd hyn yn cynnwys yr angen i roi sylw digonol i’r materion trawsbynciol, ac ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid lle bo angen. Pan ystyrir eu bod wedi’u datblygu’n ddigonol, rydym yn disgwyl y bydd pob un o’r llywodraethau’n eu cyflwyno gerbron eu deddfwrfeydd i wahodd craffu llawn arnynt.
Mae cyhoeddi’r fframweithiau dros dro hyn yn awr yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i fod yn dryloyw a hybu dealltwriaeth ynghylch datblygu fframweithiau cyffredin. Bydd rhagor o wybodaeth am ddatblygu’r pedwar fframwaith hyn, a sefyllfa’r fframweithiau dros dro eraill, yn cael ei rhannu cyn gynted â phosibl.