Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae bioddiogelwch yn flaenoriaeth i Gynllun Gweithredu Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid 2015/16. Mae’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth gan taw ef yw’r cam cyntaf yr ydym yn ei ddefnyddio i amddiffyn ein hunain rhag clefydau heintus hysbysadwy sy’n ddifrifol fel Clwy’r Traed a’r Genau neu TB Buchol. Mae’r buddiannau a ddaw o sicrhau bod arferion bioddiogelwch da yn ganolog i fywyd ffermio pob dydd yn amlwg. Gallan nhw wneud y canlynol:
- Helpu i ddiogelu iechyd anifeiliaid drwy atal clefydau heintus rhag ymledu ar ffermydd a rhyngddynt; os oes llai o glefydau’n taro, mae iechyd a lles yr anifeiliaid yn well ac o ganlyniad, mae’r ffermwr yn gwneud mwy o elw.
- Helpu i ddiogelu iechyd pobl.
- Helpu’r diwydiant i reoli ac i gael gwared ar glefydau – maen nhw’n gallu costio’n ddrud i’r ffermwr.
Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio â chyrff yn y diwydiant yn ogystal â chyda ffermwyr i wneud popeth y gallwn ni i godi safonau diogelwch ein ffermydd. Am 2 fis yn ystod yr haf, cynhaliwyd Arolwg Bioddiogelwch - Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliad er mwyn sefydlu sylfaen o dystiolaeth ynghylch pa fath o arferion bioddiogelwch y mae ffermwyr yn eu defnyddio a pha mor ymwybodol ydynt ohonynt. Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn am wybodaeth ynghylch dewisiadau cysylltu.
Mae’r Adroddiad ar yr Arolwg Bioddiogelwch yn cyflwyno canlyniadau’r arolwg hwn ac ymateb Prif Swyddog Milfeddygol Cymru. Yn bwysicach na dim, mae’r adroddiad yn cyflwyno’r camau arfaethedig nesaf a byddaf yn gofyn i Grŵp Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid am eu cyngor ar sut i symud ymlaen. Rwy’n ddiolchgar i’r Grŵp, sy’n cael ei gadeirio gan Peredur Hughes, am eu hymrwymiad parhaus i’r gwaith hwn.
Nid yn unig mae hyrwyddo bioddiogelwch da yn cyfrannu at y canlyniadau strategol sydd wedi’u hamlinellu yn Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid; mae hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig Cymru lewyrchus, gydnerth a iachach. Mae hefyd yn ategu egwyddorion datblygu cynaliadwy sef atal, bodloni nodau hirdymor, a chydweithio â’r diwydiant a ffermwyr unigol. Mae cynnwys partneriaid yn hanfodol, gan mai yn y pen draw, perchnogion y busnes sy’n gyfrifol am roi arferion bioddiogelwch gwell ar waith ar ein ffermydd.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i sicrhau bod codi safonau iechyd a lles anifeiliaid trwy fioddiogelwch da yn cael ei wreiddio cyn ddyfned â phosibl mewn rhaglenni gwaith eraill, yn arbennig, Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (2014-2020). Un ffordd y byddwn yn gwneud hyn fydd trwy ddefnyddio Gwasanaethau Cyswllt Ffermio a sicrhau mai prif elfen y gwasanaethau a’r cyngor a roddir fydd bioddiogelwch.
Gallwch ddarllen copi o Fframwaith Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid – Adroddiad ar yr Arolwg Bioddiogelwch drwy glicio yma