Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae a wnelo economi’r nos yng Nghymru â gweithgarwch economaidd rhwng 6pm a 6am. Mae’n cwmpasu amrywiaeth o fusnesau a gweithgareddau, gan gynnwys bwytai a sefydliadau sy’n gweini bwyd, gwerthu alcohol i’w yfed ar y safle ac oddi ar y safle, lleoliadau cerddoriaeth a chlybiau â dawnsio ac adloniant, sinemâu a gweithgareddau hamdden eraill. Mae gan Gymru ystod o economïau nos amrywiol mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Mae economïau nos yn werthfawr i Gymru. Maent yn creu swyddi a refeniw, ac yn cynnig cyfleoedd i bobl gymdeithasu. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ryngwladol, cenedlaethol a rhanbarthol wedi dangos bod twf economi’r nos wedi bod yn gysylltiedig â chynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweithgarwch troseddol a chamddefnyddio sylweddau.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Fframwaith i gynorthwyo pobl a sefydliadau i reoli economi'r nos yng Nghymru. Datblygwyd y fframwaith ar sail yr adborth a gafwyd drwy ymgynghori â rhanddeiliaid, gan gynnwys yr Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, awdurdodau lleol a'r gymuned fusnes. Mae sicrhau Cymru mwy diogel ac iach yn gyfrifoldeb ar y rhain i gyd, ac o fantais iddynt. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r Fframwaith hwn, and rwy'n ddiolchgar am eu cyfraniad.  

Mae'r Fframwaith hwn yn cefnogi strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau, sef Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed 2008-2018, a  Chynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau (2016-18) a gyhoeddwyd ar 6 Medi 2016. Mae'r Fframwaith yn cyfuno crynodeb cenedlaethol o arferion gorau a'r camau gweithredu a awgrymwyd i sicrhau economi nos mwy diogel, a hynny yng nghyd-destun deddfwriaethol ehangach y DU. Mae'n cynrychioli dull cydgysylltiedig o weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth, sydd wedi cyfrannu at greu 'pecyn cymorth' sy'n rhoi manylion gweithgareddau y ceir tystiolaeth eu bod yn gwella'r ffordd y caiff economi'r nos ei reoli.


Gallwch weld copi o'r Fframwaith drwy glicio ar y ddolen ganlynol:

http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/substancemisuse/availability/night/?skip=1&lang=cy