Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG yn cyhoeddi cynlluniau tymor canolig integredig yn flynyddol, yn unol â gofynion Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014.

Mae Fframwaith Cynllunio'r GIG ar gyfer 2019-22 yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch cynhyrchu cynlluniau tymor canolig integredig clir y mae modd eu cyflawni. Eleni, mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol a sicrhau twf pellach i aeddfedrwydd y system gynllunio integredig yng Nghymru. Yn dilyn cyhoeddi Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n ofynnol rhoi mwy o bwyslais ar swyddogaeth Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a datblygu modelau newydd, di-dor o iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae gallu sefydliadau'r GIG i gynllunio dros y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir wedi gwella'n raddol ers cyflwyno Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2014 chwe blynedd yn ôl. Fodd bynnag, mae ansawdd ac effeithiolrwydd y cynlluniau yn parhau i amrywio, ac fe welir hyn yn lefelau'r uwchgyfeirio ar gyfer nifer o sefydliadau. Eleni, rwy'n disgwyl gweld y bwlch hwnnw'n lleihau. Mae dyletswydd statudol ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i ddarparu cynllun tair blynedd cytbwys, ac rwyf wedi ymrwymo i helpu pob sefydliad i gyflawni eu dyletswydd dan y Ddeddf.

Mae'n strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, a Cymru Iachach yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydliadau iechyd poblogaeth sy'n canolbwyntio ar atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag anghenion y boblogaeth. Rwy'n awyddus i weld sut bydd sefydliadau'n symud ymlaen i weithio mewn ffordd wirioneddol integredig, gan ganolbwyntio ar y dinesydd wrth gynllunio.

Yn olaf, mewn ymateb i'r dyheadau a nodir yn Cymru Iachach, bydd cylch 2019-22 yn gofyn am gyflwyno un set o gynlluniau, ac yn canolbwyntio ar gynllunio parhaus yn hytrach na'r cynnyrch. Bydd gofyn i Lywodraeth Cymru gadw mewn cysylltiad agos â'r GIG cyn cyflwyno'r cynlluniau ym mis Ionawr, er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu datblygu'n effeithiol.

Yr uchelgais o hyd yw gwella ansawdd y cynllunio yng Nghymru drwy symleiddio prosesau a chryfhau gallu a llywodraethiant o fewn sefydliadau'r GIG. Rwy'n benderfynol bod rhaid i'r GIG ddatblygu cynlluniau sy'n gwneud cyfiawnder â'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu.

Mae gofynion y Fframwaith Cynllunio yn cynnwys:

• Symud ymlaen â'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol y mae Cymru Iachach wedi'i gosod. Bydd gofyn i sefydliadau ddangos sut mae'r Nod Pedwarplyg yn sylfaen i'w holl gynlluniau, a rhoi tystiolaeth i ddangos sut y byddant yn cydweithio mwy a mwy yn unol â'r nod y dylai iechyd a gofal cymdeithasol weithredu o fewn un system gynaliadwy.

• Gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) ymhellach, gan gynnwys mabwysiadu'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a chyfrannu at y nodau llesiant.

• Sicrhau Ansawdd a Diogelwch eithriadol – ysgogi gwelliant o ran diogelwch, canlyniadau, effeithlonrwydd a bodlonrwydd defnyddwyr gwasanaethau.

• Defnyddio gofal iechyd darbodus sy'n seiliedig ar werth - gofal iechyd sy'n addas ar gyfer anghenion ac amgylchiadau cleifion.

• Sicrhau mynediad amserol at ofal; gan gynnwys gofal sylfaenol, gofal canser a strôc, gofal heb ei gynllunio a gofal wedi'i gynllunio.

• Canolbwyntio ar iechyd meddwl a sicrhau cydraddoldeb gyda'r gwasanaethau iechyd a gofal corfforol.

• Cryfhau gwaith partneriaeth – hyrwyddo partneriaethau ffyniannus i sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol ar lefel ranbarthol, is-ranbarthol ac ar draws y sector cyhoeddus a ffiniau eraill.

Mae'r fframwaith ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://gov.wales/topics/health/nhswales/planning/?skip=1&lang=cy