Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n gwneud y Datganiad hwn i roi gwybod i'r Aelodau fy mod yn cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o 'Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru - Canllawiau Arferion Gorau' heddiw.  

Lansiwyd y canllawiau gwreiddiol ym mis Mawrth 2015, ac mae'r fersiwn ddiweddaraf yn cynnwys adborth a phrofiad yn deillio o'r 12 mis diwethaf yn gweithio gyda'r rhai sydd wedi derbyn asedau drwy'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol, yn ogystal â'r partneriaid sy'n gweithio i'w cefnogi.  Ers cyhoeddi’r Canllawiau gwreiddiol, rwyf wedi ceisio dangos arweiniad yn y maes hwn, yn arbennig drwy drafod ag unigolion a grwpiau sy'n defnyddio'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol fel ffordd o sicrhau gwasanaethau gwerthfawr yn eu hardaloedd.  Yn ystod taith y gyllideb, cefais gyfle i ymweld â nifer o safleoedd ar draws Cymru a drosglwyddwyd yn y ffordd hon, ac rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun beth yw’r heriau i’w hwynebu a’u goresgyn, yn ogystal â'r cyfleoedd a all godi ar gyfer darparu gwasanaethau mewn ffyrdd dyfeisgar.  

Ar ben hynny, yn hydref 2015, galwais Grŵp Cynghori Allanol ynghyd i helpu i lunio polisi a gweithgarwch yn y maes hwn.  Mae'r Grŵp hwn yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; GAVO; CGGC; Canolfan Cydweithredol Cymru; Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo; Cronfa Loteri Fawr; Un Llais Cymru; Tai Cymunedol Cymru a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru; yn ogystal â swyddogion arweiniol o fewn Llywodraeth Cymru.  

Gwelwyd bod cynaliadwyedd yn y tymor hir yn parhau i fod yn broblem i nifer; ac wrth i fodelau newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ymddangos, bydd mwy o bwyslais ar gyfranogiad cyrff cymunedol i ddarparu gwasanaethau lleol a chymryd cyfrifoldeb dros asedau lleol.  Felly mae gan gyrff cyhoeddus rôl yn cefnogi sefydliadau sy'n ysgwyddo asedau, lle bynnag y bo'n bosibl, er mwyn sicrhau bod yr asedau a'r gwasanaethau yn cael eu trosglwyddo mewn ffordd gynaliadwy.  

Wrth i ni barhau i wynebu hinsawdd ariannol anodd a digynsail, gyda pholisïau cyni cyllidol parhaus Llywodraeth y DU yn golygu y bydd Cyllideb Cymru 11 y cant yn is erbyn 2019-20 na’r hyn ydoedd yn 2010-11; mae’n hanfodol i ni barhau i gydweithio i warchod y gwasanaethau sydd mor werthfawr i’n cymunedau, gan helpu i adeiladu Cymru lewyrchus ar gyfer y presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd yn hanfodol inni ddod o hyd i well ffyrdd o ddefnyddio'n tir a'n hadeiladau cyhoeddus i'n helpu i wynebu'r heriau hyn a gall Trosglwyddo Asedau Cymunedol fod yn un ffordd o sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol ag anghenion ein cymunedau.  

Hefyd, mae’r dull cydweithredol o Drosglwyddo Asedau Cymunedol y mae’r canllawiau yn ei annog yn cyd-fynd yn llwyr â ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’, sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2016. Mae’r ddeddf yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a gwneud i gyrff cyhoeddus Cymru feddwl mwy am y tymor hir, gweithio gyda phobl a chymunedau ym mhob rhan o Gymru, a gweithio’n holistaidd wrth ddatrys problemau ac osgoi rhai yn y dyfodol.

Rydym yn gwybod bod rheoli adeilad neu wasanaeth yn llwyddiannus yn medru bod â’i risgiau, a all fod yn heriol i sefydliadau’r trydydd sector neu gymunedol sydd â phrofiad a chyllid cyfyngedig i’w cefnogi. Bwriedir i’r canllawiau hyn helpu i gefnogi newid sylweddol er mwyn galluogi cymunedau i ysgwyddo’r swyddogaethau hyn, yn ogystal ag annog awdurdodau cyhoeddus i drafod yn agored ac yn ddyfeisgar gyda’u cymunedau ar ddyfodol yr asedau er lles pawb.