Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ‘Dyfodol Mwy Disglair i Gymru’, sy’n manylu ar y niwed posibl y gellid ei weld yn sgil ymadael â'r UE heb gytundeb ac yn dadlau o blaid parhau'n aelod o'r UE. Mae'n dangos sut y gallem o fewn yr UE fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a oedd yn sail i'r bleidlais dros ymadael yn 2016.
Ers y refferendwm ar ein haelodaeth o'r UE, mae Llywodraeth Cymru - drwy ein Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ a phapurau polisi dilynol ar fasnach, mudo, buddsoddi rhanbarthol a datganoli - wedi cyhoeddi tystiolaeth, dadansoddiadau a chynigion manwl ar y ffordd ymlaen yng nghyswllt Brexit.
Yn y papurau hyn, rydym yn amlinellu cynigion manwl ar fath o Brexit a fyddai'n parchu canlyniad y refferendwm, gan gyfyngu ar y difrod i economi Cymru ar yr un pryd.
Mae ‘Dyfodol Mwy Disglair i Gymru’ yn adeiladu ar ein hanes blaenorol o ddarparu tystiolaeth a dadansoddiadau polisi ar faterion yn ymwneud â Brexit a'r ffordd orau o amddiffyn buddiannau Cymru.
Yn y ddogfen, rydym yn ystyried y chwe blaenoriaeth a amlinellir yn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’:
- Yr economi
- Y polisi mudo
- Ariannu a buddsoddi
- Mesurau diogelu a gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol
- Materion cyfansoddiadol a datganoli
- Pontio
Rydym hefyd yn tynnu sylw at yr anwiredd mwyaf un yng nghyswllt Brexit heb gytundeb, sef y bydd yn osgoi'r angen am drafodaethau â'r UE ac, yn y tymor hirach, y bydd yn osgoi'r angen am gytundeb. Mewn gwirionedd, ni fydd Brexit heb gytundeb yn ddiwedd ar y tair blynedd hyn o ansicrwydd – bydd yn dal yn ofynnol inni gael cytundeb â'r UE a bydd y trafodaethau hyn yn anoddach fyth os byddwn wedi ymadael â'r UE heb gytundeb.
Fel yr ydym wedi egluro eisoes, yn wyneb y bygythiad o Brexit heb gytundeb, rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl i ddwylo'r bobl, a byddai'n well i bobl Cymru pe bai'r DU yn aros yn yr UE.