Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mehefin, cyhoeddais ddull newydd o gefnogi ieithoedd tramor modern drwy ‘Dyfodol byd-eang, cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru’.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r cynllun ei hun. Mae wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’n prif randdeiliaid fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i wireddu ein gweledigaeth, sef bod pob dysgwr yng Nghymru yn tyfu’n ddinasyddion byd-eang, ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn ieithoedd eraill a gwerthfawrogi diwylliannau eraill.  

Rwyf eisoes wedi ei gwneud yn glir mai ein strategaeth hirdymor yw helpu ein dysgwyr i fod yn ‘Ddwyieithog a mwy’, drwy astudio Cymraeg, Saesneg ac o leiaf un iaith dramor fodern i lefel arholiad. Bydd y camau yn y cynllun hefyd yn gysylltiedig â datblygiad y cwricwlwm newydd yng Nghymru, yn enwedig Maes Dysgu a Phrofiad Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, a phedwar amcan y cwricwlwm, sef meithrin plant sydd:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae’r cynllun, sydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn ategu Cymwys am Oes – cynllun gwella addysg ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru ac mae’n amlinellu ein camau strategol. Bydd Llywodraeth Cymru a’r consortia addysg rhanbarthol yn cydweithio â’n prif bartneriaid i roi’r cynllun ar waith, gan weithio mewn ffyrdd cyffrous ac arloesol, a chreu partneriaethau newydd.

Eisoes, rydym yn cyflawni cynllun Dyfodol byd-eang. Ers fy nghyhoeddiad ym mis Mehefin, mae gwobrau Athro Almaeneg y Flwyddyn wedi’u cynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf. Nid dim ond hynny, ond athro o Gymru a enillodd wobr Athro Almaeneg y Flwyddyn a chafodd dau athro dystysgrifau cymeradwyaeth – sy’n dyst i waith caled athrawon ieithoedd tramor modern yng Nghymru.

Rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn meithrin gallu a systemau cymorth er mwyn datblygu’r gweithlu addysg yn broffesiynol i addysgu ieithoedd tramor modern yn effeithiol o flwyddyn 5 ymlaen. Rwyf am i bob dysgwr gael elwa ar strategaeth ‘Dwyieithog a mwy’ drwy’r Fargen Newydd ar gyfer y gweithlu addysg, adolygu Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon a’r rhwydwaith ysgolion arloesi.

Bellach, mae’r consortia addysg rhanbarthol wedi sefydlu ‘canolfannau rhagoriaeth’ ysgolion a fydd yn creu system gydgymorth ar gyfer ysgolion uwchradd sy’n bartneriaid a’r ysgolion cynradd sy’n eu bwydo. Byddant yn tynnu ar eu harferion a’u profiadau eu hunain a hefyd arferion a phrofiadau eraill a chyrff fel y sefydliadau iaith.  

Hoffwn ddiolch i aelodau grŵp llywio Dyfodol byd-eang, sydd wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu’r cynllun a helpu i’w weithredu. Mae’r grŵp wedi cwrdd dair gwaith eisoes ers Mehefin ac wedi cymryd camau pwysig i hyrwyddo ein gweledigaeth. Byddwn yn parhau i gydweithio â’n partneriaid dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt i helpu ein dysgwyr i dyfu’n ddinasyddion gwirioneddol fyd-eang.

Mae cynllun Dyfodol byd-eang, a manylion ‘canolfannau rhagoriaeth’ ysgolion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.