Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adfer cynefinoedd morwellt a morfeydd heli yng Nghymru yn hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac mae’n un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Mae'n dda gen i gyhoeddi £100,000 o gyllid ychwanegol i gefnogi datblygu Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol Rhwydwaith Morwellt Cymru ym mlynyddoedd ariannol 2024/25 a 2025/26.

Mae morwellt yn gynefin hanfodol bwysig sy’n darparu llawer o fanteision i bobl a natur, gan gynnwys storio carbon, amddiffyn rhag llifogydd a chynyddu bioamrywiaeth. Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu bron £1.12 miliwn o gyllid i brosiectau adfer morwellt a morfeydd heli ers 2021 drwy’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur a’r cynllun Adeiladu Capasiti Arfordirol.

Mae'r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol wedi cael ei ddatblygu gan Rwydwaith Morwellt Cymru, rhwydwaith sy'n cynnwys amrediad o bartneriaid cyflawni gan gynnwys cyrff anllywodraethol, academyddion a Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y Cynllun yn darparu rhaglen strategol, gydgysylltiedig, tymor hwy, gan adeiladu ar ein gwaith presennol.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu Cymru i atal colli morwellt, a bydd yn cefnogi adfer 266 hectar o forwellt erbyn 2030, yn unol â thargedau cadwraeth '30x30' Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal.

Bydd yn galluogi cymorth pellach i nodi bylchau mewn tystiolaeth i’n galluogi i adeiladu ar waith adfywio sy’n digwydd ar hyn o bryd ar hyd arfordir Cymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth cymunedau o werth morwellt ac atebion sy'n seiliedig ar natur yn fwy cyffredinol, wrth inni barhau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Bydd dull Prosiect Morwellt, sy'n canolbwyntio ar y gymuned, yn cael ei ehangu ymhellach i ardaloedd peilot yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro, i ddarparu glasbrint i'w weithredu yn genedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i ariannu drwy ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur.

Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu Rhwydwaith Morwellt Cymru i ddatblygu strwythur llywodraethu a model ariannu. Bydd hyn yn galluogi’r Rhwydwaith i gael mynediad i gyllid hirdymor a chynaliadwy o amrediad o ffynonellau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i helpu i weithredu’r cynllun gweithredu.

Nid yn unig mae cynyddu ac arallgyfeirio'r cyllid sydd ar gael yn hanfodol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd mewn modd effeithiol, ond gall hefyd gefnogi amrediad o swyddi gwyrdd cynaliadwy mewn cymunedau lleol ledled Cymru. Bydd y gwaith o adfer morwellt yn galw am amrediad eang o arbenigwyr – o fiolegwyr ac ecolegwyr morol i swyddogion cyfathrebu ac ymgysylltu â'r gymuned, gan gefnogi datblygu sgiliau a swyddi gwyrdd nawr ac yn y dyfodol.