Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y broses o gaffael y contract ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ymrwymais i gyhoeddi’r dogfennau a oedd yn sail i’r broses honno.

Ar ôl dyfarnu’r contract, rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau bod y broses ar gyfer cyhoeddi’r dogfennau wedi dechrau.

Caiff dwy set eang o wybodaeth eu cyhoeddi, sef y cytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (yr Adran Drafnidiaeth) a’r wybodaeth gaffael.

Bydd gwybodaeth am y cytundebau rhynglywodraethol yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a chewch weld y dogfennau caffael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.  

https://tfw.gov.wales/cy/prosiectau/gwasanaeth-rheilffyrdd-cymru-ar-gororau

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.