Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori sy'n ceisio barn am dri offeryn statudol sy'n gysylltiedig â Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Fy nod yw casglu barn y rhai hynny yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth newydd, ac, yn benodol, y rheoliadau.  

Rwy'n awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ac fe fyddaf yn ystyried y rhain yn ofalus wrth ddrafftio'r rheoliadau.  

Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn rhedeg am 6 wythnos hyd at 26 Chwefror 2015.  Mae manylion sut i ymateb wedi'u nodi yn y ddogfen ymgynghori.