Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Gwnaethom sefydlu’r Archwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy i nodi’r rhwystrau ac i nodi camau y gallwn eu cymryd i gynyddu’r ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, mewn ffordd sy’n cadw gwerth a manteision ar gyfer ein cymunedau. Rydym wedi cadw grŵp yr archwiliad dwfn er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu eu hargymhellion, ac mae’n bleser gen i fod wedi cyhoeddi ein diweddariad chwe-misol cyntaf ar yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy. Mae’r diweddariad hwn yn cydnabod y cynnydd a’r cerrig milltir rydym wedi’u cyflawni yn erbyn pob un o’r argymhellion y gwnaethom eu cyhoeddi, yn ogystal ag amlinellu’r camau nesaf mae angen eu cymryd er mwyn cwblhau’r argymhellion hyn.
Rwy’n edrych ymlaen at drafod y mater hwn yn fanylach yn y drafodaeth a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru.
Fel y nodais yn fy ymateb i’r Pwyllgor ar 11 Gorffennaf 2022, byddwn yn cynnal trafodaeth arall yn y chwe mis nesaf wrth inni weithio i roi sylw i’r argymhellion hyn, a gwneud rhagor o waith i gael gwared ar y rhwystrau sy’n ein hatal rhag cynhyrchu rhagor o ynni cynaliadwy yng Nghymru.