Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennyd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn diweddaru'r Senedd ar y data diweddaraf am allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru a bod y Dadansoddiad o'r Ymgynghoriad ar y Fframwaith Pontio Teg wedi’i gyhoeddi.   

Mae'r data am allyriadau tiriogaethol a ryddhawyd yr wythnos hon gan y Rhestr Genedlaethol Allyriadau Atmosfferig (National Atmospheric Emission Inventory (Adroddiadau) (Dolen Allanol)) yn amcangyfrif bod cyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2022 yn cyfateb i 35.7 miliwn tunnell o garbon deuocsid (CO2), gostyngiad o 36% o'i gymharu ag allyriadau'r flwyddyn sylfaen[1] a gostyngiad o 0.1% o'i gymharu â 2021.  Mae’r data hwn yn adlewyrchu diweddariadau i’r dull a ddefnyddir i amcangyfrif allyriadau. 

Mae'r data hwn yn darparu tystiolaeth o berfformiad ar sail ail gyllideb garbon Cymru (2021-25).  Mae'r ail gyllideb yn anelu at sicrhau gostyngiad ar gyfartaledd yn yr allyriadau o 37% dros y cyfnod o bum mlynedd, gydag uchelgais i ragori ar y targed hwn. 

Ym mis Rhagfyr 2023, rhoddodd Llywodraeth Cymru ar waith bolisi cyntaf y cynllun i ddarparu Cyllideb Carbon 2, Cymru Sero Net: Cyllideb Carbon 2 (2021-2025). Ymgynghorodd hefyd ar Fframwaith Pontio Cyfiawn a Phecyn Cymorth ar gyfer rhanddeiliaid, sy’n esbonio sut yr ydym am gynnig cefnogi Pontio'n Deg yng Nghymru. Parodd yr ymgynghoriad o 4 Rhagfyr 2023 tan 11 Mawrth 2024 gan ganolbwyntio ar wyth prif faes: integreiddio, gweledigaeth, egwyddorion arweiniol, sylfaen dystiolaeth, ysgogi rhanddeiliaid ac ymgysylltu, pecyn cymorth, cynllunio ac effeithiau ar y Gymraeg. 

Hoffwn ddiweddaru’r Senedd bod y dadansoddiad o'r ymgynghoriad bellach wedi'i gyhoeddi. Dwi am gyhoeddi ymateb y Llywodraeth yn ddiweddarach eleni. 

[1] Blynyddoedd Sylfaen allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yw: 1990 ar gyfer carbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd; 1995 ar gyfer nwyon wedi’u fflworeiddio.