Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Llofnodwyd y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol ar 28 Chwefror. Hwn yw'r ail gytundeb masnach rydd cwbl newydd i gael ei lofnodi gan y DU fel gwlad sy'n masnachu'n annibynnol, yn dilyn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia.

Heddiw rwy'n cyhoeddi adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd ar ein tudalennau gwe Polisi Masnach. https://llyw.cymru/cytundeb-masnach-rydd-y-du--seland-newydd-safbwynt-llywodraeth-cymru

Mae'r adroddiad yn rhoi sylwadau ar y Cytundeb Masnach Rydd â Seland Newydd, gan gynnwys y meysydd a allai fod yn bwysig i Gymru yn ein barn ni, a'r effeithiau economaidd posibl. Rwy'n gobeithio y bydd y safbwynt sy'n canolbwyntio ar Gymru a'r wybodaeth yn yr adroddiad yn helpu Aelodau o'r Senedd, busnesau a'r cyhoedd i graffu ar y cytundeb.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.