Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel y bydd yr aelodau yn gwybod eisoes rhoddodd Deddf Cymru 2014 bŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Fel y cytunwyd yn fframwaith ariannol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016 cafodd Cyfraddau Treth Incwm Cymru eu cyflwyno ar 6 Ebrill 2019.

Mae CThEM yn cadw’r cyfrifoldeb dros gasglu a rheoli Cyfraddau Treth Incwm Cymru ac, fel rhan o’r broses gweithredu, drafftiwyd Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn gosod y gofynion, yr amserlenni a’r mesurau perfformiad ar gyfer gweithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i drethdalwyr Cymru yn gyson a bydd yn galluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i fodloni eu priod gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu treth incwm Cymru.

Cyhoeddwyd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar wefan Llywodraeth Cymru a gwefan Gov.UK. Mae dolen i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i’w chael isod:

https://llyw.cymru/cytundeb-lefel-gwasanaeth-gyda-cthem