Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd
Bydd Aelodau Senedd Cymru am wybod bod y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPs) cyntaf ar gyfer Cregyn y Brenin a Draenogiaid y Môr wedi'u cyhoeddi heddiw ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr. Maen nhw i'w gweld yma: Y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd a Chynlluniau Rheoli Pysgodfeydd
Gwnaethon ni ymrwymo yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS) i gyhoeddi'r FMPs hyn cyn diwedd 2023. Mae'r FMPs hyn a'r JFS yn rhan o'r Fframwaith Pysgodfeydd newydd.
Mae'r cynlluniau'n creu map ffordd ar gyfer rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin a physgodfeydd draenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru yn y dyfodol. Pwrpas y ddau FMP yw cadw lefelau pysgota o fewn terfynau cynaliadwy, trwy nodi'r polisïau a'r mesurau sydd eu hangen i gyrraedd a chynnal yr amcan o bysgodfeydd cregyn y brenin a draenogiaid môr cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ar ôl ymgynghori ar y ddau FMP drafft, cyhoeddwyd ochr yn ochr Grynodeb ffurfiol o'r Ymatebion ac Ymateb y Llywodraeth:
I ddarllen Crynodeb o'r Ymatebion i'r ymgynghoriad ar Gregyn y Brenin, cliciwch yma: Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin
I ddarllen Crynodeb o'r Ymatebion i'r ymgynghoriad ar Ddraenogiaid y Môr, cliciwch yma. Gynllun Rheoli drafft Pysgodfeydd Draenogiaid Môr
A ninnau nawr yn canolbwyntio ar roi polisïau ac ymrwymiadau'r ddau FMP ar waith, byddwn yn dal i drafod a siarad â'r rhanddeiliaid fel rhan o'r broses.