Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori ac ymateb gan yr Awdurdod sy'n ymwneud â gwaith parhaus i adolygu dyrannu lwfansau am ddim o fewn y cynllun. Mae polisi dyrannu am ddim wedi'i gynllunio i liniaru ar ddadleoli carbon sy'n deillio o ddod i gysylltiad â phris carbon Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Maent yn lwfansau sy'n cael eu darparu am ddim i ddiwydiannau sy'n wynebu cystadleuaeth yn fyd-eang gan gystadleuwyr mewn gwledydd sydd â pholisïau lliniaru newid hinsawdd gwannach (dadleoli carbon). Ar hyn o bryd, dyraniadau am ddim yw'r prif ysgogydd polisi ar gyfer lliniaru ar ddadleoli carbon.

Ym mis Rhagfyr 2023 cyhoeddodd yr Awdurdod ei ymgynghoriad Adolygiad o Ddyraniadau Am Ddim, a oedd yn ceisio barn ar sut y gellid addasu polisi dyrannu am ddim i dargedu sectorau'r DU sydd fwyaf mewn perygl o ddadleoli carbon yn well. Y nod oedd gweithredu unrhyw newidiadau cyn yr ail gyfnod dyrannu yn 2026. Fodd bynnag, ym mis Medi 2024 ymgynghorodd yr Awdurdod ar oedi tan 2027 cyn gweithredu unrhyw newidiadau. Byddai hyn yn rhoi amser ychwanegol i ystyried barn rhanddeiliaid a datblygu polisi yn ofalus mewn maes cymhleth a heriol, yn ogystal ag alinio newidiadau i bolisi dyraniadau am ddim gyda chynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno Mecanwaith Addasu Ffiniau Carbon y DU (CBAM) yn 2027. Mae'r cysylltiad â CBAM y DU yn arbennig o bwysig gan ei fod yn ffordd arall o liniaru ar ddadleoli carbon ac, o'r herwydd, mae'n debygol o effeithio ar bolisi dyraniadau am ddim Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Felly, roedd rhanddeiliaid o blaid cysoni gweithrediad y polisïau hyn. Mae'r adroddiad Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Symud Ail Gyfnod Dyrannu am ddim y Cynllun - Ymateb Awdurdod" a gyhoeddwyd heddiw yn cadarnhau y bydd yr oedi arfaethedig yn digwydd. 

Y ddogfen ymgynghori sy'n cael ei rhyddhau yw "Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Adolygiad o Ddyraniadau am Ddim: Ymgynghoriad ar Ddadleoli Carbon." Mae hyn yn dilyn cynigion ymgynghoriad Rhagfyr 2023 oedd a'r nod o ddiweddaru'r Rhestr Dadleoli Carbon, sef rhestr o sectorau sydd mewn perygl o ddadleoli carbon. Mae'r ymgynghoriad newydd hwn yn rhoi mwy o fanylion am y cynigion hynny ac yn ceisio mewnbwn pellach gan randdeiliaid am ein dull gweithredu o safbwynt dadleoli carbon. Mae'n cynnig manylion ychwanegol am y fethodoleg y tu ôl i'r Rhestr Dadleoli Carbon ac yn ystyried gwerthoedd Dangosyddion Dadleoli Carbon diwygiedig yn seiliedig ar y risgiau dadleoli carbon sy'n wynebu diwydiannau'r DU. Mae hefyd yn cynnwys cynigion ac yn gofyn am adborth ar sut y dylid addasu dyraniadau am ddim ar gyfer sectorau a fydd yn ddarostyngedig i Fecanwaith Addasu Ffiniau Carbon arfaethedig y DU.

Trwy Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU, mae'n rhaid i ni annog datgarboneiddio mewn ffordd nad yw'n rhoi diwydiant Cymru o dan anfantais, ac mewn ffordd sy'n cefnogi llwybrau datgarboneiddio'r diwydiant i fyd sero net. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn gam nesaf hanfodol o safbwynt gwella dyraniadau am ddim o fewn Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU, gan sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i'r diwydiannau hynny sydd â’r mwyaf o’i angen. 

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.