Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diwydiant amaethyddol modern, proffesiynol a phroffidiol – dyna yw fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru. Ac elfen ganolog o hyn yw cyrraedd, a chynnal, safonau uchel mewn iechyd a lles anifeiliaid er mwyn gwella incwm a gwireddu ein potensial yn y farchnad. Mae’r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas, hefyd.

Mae “Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru – Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd” yn disgrifio sut byddwn yn mynd ati i sicrhau bod  safonau iechyd a lles anifeiliaid yn gwella’n barhaus dros yr hirdymor.  Nodir ein gweledigaeth mewn cyfres o amcanion i’w rhannu: sef bod gan Gymru anifeiliaid iach a chynhyrchiol gydag ansawdd bywyd da; bod pobl yn ymddiried ac yn hyderus o ran y ffordd y mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu a’r ffordd y diogelir iechyd y cyhoedd; bod gan Gymru economi wledig ffyniannus,  a bod amgylchedd ein gwlad o safon uchel.  Mae'r amcanion hyn hefyd yn cyfrannu at y saith nod lles sydd ym Mil Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach, mwy cyfartal, â diwylliant bywiog a chymunedau cydlynus, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Hwn yw’r Cynllun Gweithredu blynyddol cyntaf i’w gyhoeddi o dan y Fframwaith. Mae’n nodi’r prif feysydd gweithgarwch ar gyfer 2015/16. Bydd y camau gweithredu yn y Cynllun yn helpu i gynnal busnesau fferm proffidiol ac yn helpu i ddiogelu a chreu swyddi. Ar lefel ehangach, o gyrraedd safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid,  byddwn yn helpu i amddiffyn yr economi ehangach rhag dioddef gan achosion o glefydau –  rhaid cofio y gall clefydau anifeiliaid effeithio ar y sector amaethyddiaeth, y diwydiant bwyd a’r sector cyhoeddus, ac ar dwristiaeth hefyd, er enghraifft.

Bydd hon yn flwyddyn heriol, a rhaid inni weithio gyda’n gilydd i gyflawni i’r eithaf, drwy fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir drwy Gynllun Datblygu Gwledig newydd Cymru a’r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol er mwyn cyflawni’r Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yn llwyddiannus ac i’r perwyl hwnnw rwy’n ddiolchgar i Grŵp y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid, dan gadeiryddiaeth Peredur Hughes, am eu hymrwymiad a’u cymorth wrth baratoi’r cynllun hwn.


Mae copi o Gynllun Gweithredu 2015/16  Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gael ar lein.