Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r  Strategaeth Iaith Gymraeg - Cymraeg 2050 yn nodi’r angen am ffocws newydd i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16 a phwysigrwydd cynnal a datblygu sgiliau iaith pobl ifanc.

Yn dilyn ein ymateb i’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu’r Llywodraeth i "archwilio’r posibilrwydd o ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach,” mae'r Coleg bellach ym cymryd mwy o gyfrifoldeb i gefnogi colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i ddatblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg; gan eu cynorthwyo i oresgyn rhwystrau oedd yn y gorffennol wedi cyfyngu ar eu gallu i gynyddu’r ddarpariaeth.

I gyd-fynd gyda’r cyfrifoldebau ychwanegol, sefydlwyd bwrdd ymgynghorol gyda chynrychiolaeth o’r sectorau addysg bellach a dysgu’n seiliedig ar waith i ystyried y cyfleoedd a'r heriau wrth gefnogi datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac i gefnogi'r Coleg i ddatblygu cynllun gweithredu.  Blaenoriaethwyd tri maes penodol:

  • cefnogi staff presennol colegau a darparwyr hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg er mwyn addysgu'n ddwyieithog;
  • datblygu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg; a
  • hyrwyddo'r cyfleoedd a'r manteision i ddysgwyr ym meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.

Cyflwynodd y grŵp adroddiad i mi ym mis Gorffennaf 2018 ar eu canfyddiadau, ac mae hwn bellach wedi ei ddatblygu, mewn partneriaeth gyda swyddogion, yn gynllun gweithredu ffurfiol sy'n cael ei gyhoeddi heddiw.

Rwy'n falch, mewn cyfnod mor fyr, fod y Coleg nid yn unig wedi ymateb i'r her newydd, ond mae cynllun uchelgeisiol clir wedi'i greu mewn ymateb i'r ystod eang o heriau a nodwyd. Rydym wedi rhagori ar ein disgwyliadau cychwynnol ac mae’r rhaglen waith ar gyfer y blynyddoedd nesaf wedi ei gosod, nid yn unig ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ond hefyd i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol o fewn yr amgylchedd dysgu. Bydd y Coleg mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru nawr yn cymryd y camau hyn ymlaen, gan adeiladu ar y gweithgareddau sydd eisoes wedi dechrau.

https://beta.llyw.cymru/addysg-cyfrwng-cymraeg-addysg-bellach-phrentisiaethau