Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae "Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid - Cyrraedd Safonau Uchel gyda'n Gilydd" yn disgrifio'r hyn rydym am ei wneud i sicrhau bod safonau iechyd a lles ein hanifeiliaid yn gwella'n barhaus a thros y tymor hir. Gwelir ein gweledigaeth yn nifer o'r amcanion rydym yn eu rhannu: Dylai bod gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol a iach sy'n byw bywyd o ansawdd da; dylai pobl allu ymddiried a theimlo hyder yn y ffordd y mae'n bwyd yn cael ei gynhyrchu a'r ffordd y diogelir iechyd y cyhoedd a dylai bod gan Gymru economi lewyrchus ac amgylched o ansawdd uchel. Mae'r canlyniadau hyn yn cyfrannu hefyd at y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae iechyd a lles ein hanifeiliaid yn gwneud cyfraniad mawr at gynaliadwyedd ein sector da byw, at ein diwydiant bwyd a ffermio ehangach ac ar raddfa ehangach eto, at gefn gwlad, yr amgylchedd, cymunedau a'r economi.

Dyma'r trydydd Cynllun Gweithredu blynyddol o dan y Fframwaith.  Mae'n brawf o'n hymrwymiad i barhau i wireddu'n blaenoriaethau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Rydym yn ei gyhoeddi ar adeg o ansicrwydd mawr ynghylch beth all ddigwydd ar ôl gadael yr UE. Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru a'n cynlluniau gweithredu blynyddol yn golygu bod gennym ffordd gytûn ynghylch sut i fynd ati i barhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid. Mae i'r Cynllun Gweithredu gwmpas eang, ond trwy gydweithio go iawn, gallwn barhau i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid a hyrwyddo da byw iach Cymru, diogelu iechyd pobl, yr amgylchedd a diogelu'r economi leol.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru o dan gadeiryddiaeth Peredur Hughes am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth wrth baratoi'r cynllun. Os hoffech weld copi o Gynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru 2017/18, ewch i www.llyw.cymru/fframwaithiechydalles

Mae'r datganiad hwn yn cael ei wneud yn ystod y toriad er mwyn cadw bys yr aelodau ar byls pethau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.