Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynllun Gweithredu 2019-20 a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyflenwi'r ymrwymiadau a wnaed yn "Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru – Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd" yn cael ei gyhoeddi heddiw er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus a hirdymor o ran safonau iechyd a lles anifeiliaid.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer codi safonau o ran iechyd a lles anifeiliaid ac yn disgrifio sut y bydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn ein cynorthwyo i gyflawni'r amcanion hyn.

Trwy gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu hwn ar gyfer 2019-20, rydym yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni'n prif flaenoriaethau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid, a hynny er gwaethaf y pwysau cynyddol yn sgil paratoadau Brexit.

Er bod ansicrwydd o hyd wrth i ni geisio trafod canlyniadau sy'n briodol i Gymru, mae'n bwysig cofio, bod gennym weledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi pennu nodau ar ein cyfer er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru. Mae'r nodau hyn yn sail i'n holl waith o dan Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Mae iechyd a lles ein hanifeiliaid yn gwneud cyfraniad mawr at gynaliadwyedd ein sector da byw, at ein diwydiant bwyd a ffermio ehangach ac ar raddfa ehangach eto, at gefn gwlad, yr amgylchedd, cymunedau a'r economi. Bydd y cyfnod hwn o newid sylweddol yn creu cyfle gwirioneddol i ni ystyried a phennu'r dyfodol yr hoffem ei gyflawni ar gyfer Cymru c i barhau i ystyried y ffactorau hynny a fydd yn pennu ein safle o fewn marchnad sy'n datblygu.

Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys mynd â cham nesaf y Rhaglenni Dolur Rhydd Feirysol Buchol, Clafr y defaid a Dileu TB Gwartheg yn ei blaen, yn ogystal â pharhau i fodloni'n hymrwymiadau statudol i ddiogelu'r gadwyn fwyd ac iechyd y cyhoedd a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol.

Mae i'r Cynllun Gweithredu gwmpas eang, ond trwy gydweithio go iawn, gallwn barhau i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid a hyrwyddo da byw iach Cymru, diogelu iechyd pobl, yr amgylchedd a diogelu'r economi leol.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru o dan gadeiryddiaeth Stephen James am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth wrth baratoi'r cynllun. Os hoffech weld copi o Gynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru 2019/20, ewch i www.llyw.cymru/fframwaithiechydalles

Gan fod y datganiad hwn yn cael ei anfon yn ystod y toriad buaswn i'n barod iawn i ateb unrhyw gwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull.