Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae “Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru – Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd" yn disgrifio’r hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud yn barhaus i safonau iechyd a lles anifeiliaid.  Mae ein gweledigaeth yn cael ei chynnwys mewn llawer o ganlyniadau cyffredin, er enghraifft:  dylai anifeiliaid Cymru fod yn gynhyrchiol a iach gydag ansawdd bywyd da; dylai pobl allu ymddiried yn y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a chael hyder ynddo ynghyd â’r modd y mae iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu.  Mae hefyd yn bwysig bod economi Cymru’n ffyniannus o ansawdd uchel.  Mae’r canlyniadau hyn wedi’u hymgorffori yn y saith nod lles sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.  Mae iechyd a lles anifeiliaid yn gwneud cyfraniad pwysig i gynaliadwyedd y sector da byw a’r diwydiant bwyd a ffermio ehangach ac wrth gwrs, i gefn gwlad, yr amgylchedd, cymunedau a’r economi.

Dyma’r ail Gynllun Gweithredu i gael ei gyhoeddi o dan y Fframwaith.  Caiff ei gyhoeddi mewn cyfnod pan rydym ond wedi megis dechrau ar y gwaith o asesu rhwymedigaethau Canlyniad Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.  Mae hi’n rhy gynnar ar hyn o bryd i roi manylion ynghylch yr hyn fydd yn digwydd.  Wedi dweud hynny, ni fydd yna unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r rheoliadau ac ni fydd y buddiannau a’r cyllid yr ydym yn ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd yn newid chwaith.  Byddwn yn mynd ati i wneud y gwaith sydd wedi’i amlinellu yng Nghynllun Gweithredu Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer 2016/17 er mwyn codi safonau iechyd a lles anifeiliaid yn barhaus a hybu da byw iach yng Nghymru, diogelu iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a diogelu’r economi leol hefyd.

Mae gweithio ar ffurf partneriaeth yn parhau i fod yn hollbwysig fel y gallwn ni roi’r fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid ar waith yn llwyddiannus.  Rwy’n ddiolchgar iawn i grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, grŵp sy’n cael ei gadeirio gan Peredur Hughes, am eu gwaith caled a’u help yn paratoi’r cynllun.

Mae copi o Gynllun Gweithredu’r Fframwaith ar gyfer Iechyd  a Lles Anifeiliaid Cymru yn 2016/17 ar gael ar lein.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.