Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r wiwer lwyd yn rhywogaeth estron oresgynnol o bwys sydd wedi lledaenu’n helaeth yng Nghymru. Mae'n effeithio'n andwyol ar boblogaethau'r wiwer goch drwy gystadlu am fwyd a chynefinoedd, a thrwy ledaenu feirws brech y wiwer sy’n lladd gwiwerod coch. Mae'r wiwer lwyd hefyd yn effeithio ar gynhyrchiant pren ac ar gynaliadwyedd a chyflwr cynefinoedd coetir ehangach drwy dynnu rhisgl oddi ar y coed. Gall hynny bydru a diraddio ansawdd y pren, a pheri i goeden gyfan neu ran o goeden farw.

Yn gynharach eleni, ymgynghorwyd ar Gynllun Gweithredu Drafft Cymru i Reoli'r Wiwer Lwyd. Lluniwyd y ddogfen hon ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chyfraniadau gan grŵp llywio o randdeiliaid.  Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi ac fe'u hystyriwyd wrth greu fersiwn derfynol y Cynllun. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith.

Bydd y Cynllun yn cyfrannu at nodau Cytundeb Gwiwerod y DU sy'n hoelio sylw ar reoli'r wiwer lwyd er lles diogelu'r wiwer goch a choetiroedd. Mae hefyd yn mynd i'r afael ag ymrwymiad yn y Strategaeth Coetiroedd i Gymru ac yn bodloni un o ofynion Rheoliad yr UE ar rywogaethau estron goresgynnol o ran cyflwyno mesurau i ddileu neu reoli'r rhywogaethau a restrir sy'n peri pryder i'r Undeb, neu atal y rhywogaethau hynny rhag lledaenu.

Amcan y Cynllun yw rheoli poblogaethau'r wiwer lwyd er mwyn lleihau eu heffaith ar boblogaethau'r wiwer goch ac ar ecosystemau coetiroedd a'u gwasanaethau cysylltiedig. Mae'r Cynllun yn nodi’r camau gweithredu y gellir eu cyflawni drwy bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol i hybu ac i gynorthwyo’r gwaith o reoli poblogaethau’r wiwer lwyd. Nid yw’n cynnig difa’r wiwer lwyd ledled Cymru na’i dileu o Gymru.

Mae'r gofyniad yn parhau i ddiogelu'r wiwer goch yng Nghymru fel un o'r rhywogaethau eiconig sy’n cael blaenoriaeth gennym. Rwy'n ddiolchgar i Fforwm Gwiwerod Cymru a gyhoeddodd y Cynllun Diogelu'r Wiwer Goch yng Nghymru yn 2009 ac mae wedi ei adnewyddu a'i ailgyhoeddi ers hynny er mwyn sicrhau bod ffocws y gwaith diogelu yn parhau i fod yn gywir.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru i Reoli'r Wiwer Lwyd yn cefnogi'r Cynllun Diogelu'r Wiwer Goch yng Nghymru yn llwyr. Mae'r Cynllun Diogelu yn hoelio sylw ar weithredu i ddiogelu a gwella'r tri phrif safle'r wiwer goch – Ynys Môn, Clocaenog a'r Canolbarth – ac i gynnal poblogaethau'r wiwer goch sy'n bridio. Mae’r Cynllun Diogelu yn cynnwys rhai camau i reoli’r wiwer lwyd ar y prif safleoedd ac mewn ardaloedd clustogi cyfagos, a hynny oherwydd effaith y gystadleuaeth am fwyd a chlefydau ar boblogaethau’r wiwer goch. Mae’n bwysig bod cynlluniau’r wiwer goch a’r wiwer lwyd yn ategu ei gilydd er mwyn cael cymaint o fudd â phosibl o’r gwaith i ddiogelu’r wiwer goch a hybu’r arferion gorau o ran rheoli’r wiwer lwyd. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn cynnwys cylch gwaith ehangach sy’n cydnabod effaith y wiwer lwyd ar goetir fel cynefin ac adnodd naturiol, ac felly mae'r ddau gynllun yn dal i fod ar wahân.

Bydd Fforwm Gwiwerod Cymru, sydd eisoes yn helpu i lywio'r ffordd y caiff y Cynllun Diogelu'r Wiwer Goch yng Nghymru ei gyflenwi, yn cael ei addasu i weithredu fel grŵp llywio i gydgysylltu a chefnogi’r gwaith o ran sut i roi Cynllun Gweithredu Cymru i Reoli'r Wiwer Lwyd ar waith, ac i gynghori ar hynny.

Mae modd gweld Cynllun Gweithredu Cymru i Reoli'r Wiwer Lwyd drwy'r ddolen a ganlyn:-

https://beta.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cymru-i-reolir-wiwer-lwyd .

Mae modd gweld Cynllun Diogelu'r Wiwer Goch yng Nghymru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth i Fforwm Gwiwerod Cymru, drwy'r ddolen a ganlyn:-

http://naturalresourceswales.gov.uk/guidance-and-advice/environmental-topics/wildlife-and-biodiversity/uk-protected-species/red-and-grey-squirrels/?lang=cy