Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ddydd Gwener 21 Mawrth cyhoeddwyd cynllun gweithredu newydd i hyrwyddo'r defnydd cynaliadwy o blaladdwyr. Bydd hyn yn lleihau'r risgiau a'r effeithiau i iechyd pobl a'r amgylchedd a sicrhau bod plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Mae pedair llywodraeth y DU wedi cytuno ar Gynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025: Gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, sy'n amlinellu'r camau i'w cymryd dros y pum mlynedd nesaf er mwyn lleihau'r risgiau a'r effeithiau sy'n gysylltiedig â phlaladdwyr.
Mae'n cynnwys targed lleihau domestig cyntaf y DU ar gyfer plaladdwyr. Dyma darged sy’n seiliedig ar leihau niwed amgylcheddol posibl, yn hytrach nag ar faint o blaladdwyr a ddefnyddir, a thrwy hynny sicrhau dull cytbwys ac effeithiol.
Mae'r Cynllun yn nodi camau clir ac ymarferol ar sut y byddwn yn cefnogi ein rheolwyr tir i reoli plâu ac ymwrthedd i blaladdwyr yn effeithiol, gan leihau’r effeithiau ar bobl a'r amgylchedd.
Mae hefyd yn cynnwys ystod eang o gamau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ddulliau rheoli plâu integredig megis defnyddio mesurau biolegol, ffisegol ac anghemegol eraill i reoli plâu fel rhan o ddull integredig, yn ogystal â chynlluniau i ddarparu gwell gorfodaeth ar sail risg.
Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein hymrwymiad i leihau'r defnydd o blaladdwyr drwy hyrwyddo a chefnogi newid ymddygiad. Bydd pob un o'r pedair llywodraeth yn parhau i weithio gyda'i gilydd ar amryfal weithgareddau er mwyn helpu i gyflawni'r amcanion a'r targed uchelgeisiol sydd yn y cynllun. Byddwn ni hefyd yn cymryd camau uniongyrchol yma yng Nghymru, er enghraifft drwy'n Cynllun Ffermio Cynaliadwy a thrwy weithio gyda'r sector amwynder a phobl sy'n garddio gartref.
Dyma gam arall cadarnhaol tuag at nod Llywodraeth Cymru o atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a mynd i’r afael â’r argyfwng natur.