Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Ar 18 Gorffennaf 2013, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar gynllun gweithredu drafft ar sŵn ar gyfer Cymru. Mae’r cynllun drafft yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn cydweithio gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf i reoli sŵn.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r fersiwn derfynol o’r cynllun gweithredu ar sŵn, sydd wedi’i ddiwygio’n unol â’r ymatebion a gafwyd ac i gynnwys mân gywiriadau a diweddariadau ffeithiol.
Mae’r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i ni lunio cynlluniau gweithredu ar sŵn newydd ar gyfer priffyrdd, rheilffyrdd prysur ac ardaloedd trefol mawr a’u cyflwyno i’r Comisiwn Ewropeaidd erbyn 18 Ionawr 2014.
Gwyddom y gall sŵn fod yn niweidiol i’n hiechyd a’n lles cyffredinol os na chaiff ei reoli ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu i ddiogelu cymunedau yng Nghymru rhag lefelau uchel o sŵn a darparu ardaloedd heddychlon a thawel lle gall pobl ymlacio. Mae’r cynllun gweithredu cyfnerthedig hwn ar sŵn yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’n sefydliadau partner i leihau llygredd sŵn a sicrhau bod lefelau sŵn yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau’n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.