Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gen i gyhoeddi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

https://llyw.cymru/cynllun-ffermio-cynaliadwy-cynigion-bras-ar-gyfer-2025

Rwy wedi esbonio sut y bydd egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn fframwaith tymor hir ar gyfer polisi a chymorth amaethyddol yn y dyfodol. Mae’r fframwaith hwnnw’n cydnabod bod cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a thaclo’r argyfyngau natur a hinsawdd yn amcanion integredig sy’n ategu ei gilydd. Dyma fydd byrdwn Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yr ydym am ei gyflwyno i’r Senedd yr Hydref hwn.

Cynigion y Cynllun sy’n dod â’r fframwaith hwn yn fyw.  Mae’r Cynllun wedi’i lunio i gadw ffermwyr ar y tir, i helpu i adeiladu diwydiant amaeth llewyrchus a chydnerth ac i gydnabod bod cynhyrchu bwyd yn hanfodol i’n gwlad. Mae’n cydnabod hefyd bod yn rhaid i ni ymateb i argyfyngau’r hinsawdd a natur i sicrhau bod gennym sector amaeth cynaliadwy a chydnerth ar gyfer cenedlaethau yfory.   Yr argyfyngau hyn yw’r bygythiad mwyaf i ddiogelwch cyflenwadau bwyd y byd.  Mae angen i ni helpu ffermwyr i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – ffermio’n gynaliadwy - cynhyrchu bwyd mewn cytgord â’r amgylchedd.

Mae’r Cynllun yn disgrifio sut y caiff ffermwyr eu gwobrwyo am eu gweithredoedd. Bydd hynny’n cynnwys gweithio gyda ffermwyr i’w helpu i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd neu’r farchnad, i’w helpu i wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau, eu cefnogi i fod yn fwy effeithiol, lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’u helpu i ddal a storio mwy o garbon.

Byddwn yn talu taliad sylfaenol i ffermwyr am gynnal set o Weithredoedd Sylfaenol. Bydd ffermwyr ledled Cymru yn gallu eu cynnal ac maen nhw’n gofyn am fwy nag sy’n ofynnol o dan y ddeddf. Bydd taliadau ychwanegol ar gael i ffermwyr sy’n dewis cynnal Gweithredoedd  Opsiynol neu Gydweithredol.

Cafodd y cynigion hyn eu llunio gan y ffermwyr a’r rhanddeiliaid a ymatebodd i’n hymgynghoriadau blaenorol ac i’r cyfnod cyd-ddylunio cyntaf.  Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i weithio gyda ni hyd yma.  Onid mae rhagor i’w wneud ac rwy’n gofyn eto i’r sector ein helpu ni i wneud yn siŵr bod ein cynigion yn gweithio er lles ffermwyr ledled Cymru.

Byddaf yn ymgynghori ar ein cynigion terfynol flwyddyn nesaf ar ôl ystyried y farn yn yr ail gyfnod cyd-ddylunio ac ar ôl ystyried tystiolaeth a gwaith ddadansoddi ar effeithiau’n cynigion.

Dros y misoedd i ddod, byddwn yn ceisio barn cymaint o ffermwyr a rhanddeiliaid â phosibl trwy arolygon a gweithdai.  Cawsom ymateb rhagorol i’n cyfnod cyd-ddylunio cyntaf a hoffwn weld hyd yn oed mwy o ffermwyr yn cymryd rhan yn yr ail.  Rydym am glywed gan bob sector ac o bob rhan o Gymru ynghylch sut y gallai’r gweithredoedd rydym yn eu cynnig weithio ar ffermydd gwahanol.  Gyda’r help hwn, gallwn wneud yn siŵr bod y Cynllun yn gweithio er lles ffermwyr, er lles ein cymunedau gwledig ac er lles ein gwlad.