Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Jane Hutt, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Wedi misoedd o sgyrsiau gydag aelodau o'r gymuned a rhanddeiliaid lleol, mae Cynllun Cymuned Caerau a Threlái yn cael ei gyhoeddi heddiw (Saesneg yn Unig).
Yn dilyn digwyddiadau trychinebus mis Mai diwethaf, penodwyd Gweithredu dros Gaerau a Threlái (ACE) i gydgysylltu'r gwaith o ddatblygu Cynllun Cymunedol ar gyfer Caerau a Threlái, gan weithio'n agos gyda sefydliadau lleol drwy grŵp llywio cymunedol ac ymgysylltu'n eang â thrigolion o bob oed.
Ariannwyd ACE ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru i arwain y gwaith hwn a sicrhau bod y cynllun cymunedol wedi'i wreiddio'n ddwfn yn anghenion a dyheadau pobl Trelái a Chaerau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn bod rhaid iddo gael ei arwain gan drigolion a sefydliadau lleol Trelái a Chaerau . Fodd bynnag, cefnogwyd y gwaith hwn gan Grŵp Cyfeirio Gweinidogol, dan gadeiryddiaeth Jane Hutt AS yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip. Mae'r grŵp hwn wedi cyfarfod pedair gwaith a bydd cyfarfod terfynol yn cael ei gynnal heddiw, ynghyd â Chyfarfod Arbennig o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, i nodi cyhoeddi'r cynllun a phen-blwydd y digwyddiadau a arweiniodd at yr hyn y mae'r grŵp llywio lleol wedi'i ddisgrifio fel ton nerthol o ysbryd cymunedol.
Mae Cynllun Cymunedol Caerau a Threlái yn nodi 40 o amcanion sy'n canolbwyntio ar chwe thema allweddol:
- Plant a phobl ifanc
- Diogelwch cymunedol a diogelu
- Lleoedd a'r amgylchedd
- Iechyd a llesiant
- Cyflogaeth, safonau byw a chostau byw
- Cyfathrebu a meithrin cymuned
Mae'r elfennau sylfaenol sy'n ysgogi'r materion a godwyd gan y gymuned yn gymhleth, a bydd angen gweithredu mewn dull strategol hirdymor ar lawer ohonynt er mwyn sicrhau newid i'r gymuned hon. Mae'r cynllun cymunedol yn dwyn y materion hyn at ei gilydd ac yn nodi camau ar gyfer ymdrin â'r anghenion a'r pryderon hyn. Bydd ACE a Chyngor Caerdydd nawr yn bwrw ymlaen â gweithredu'r cynllun, gyda chefnogaeth barhaus gan amrywiaeth eang o bartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau'r gymuned a gyfrannodd eu hamser a'u hegni i'r broses ddatblygu hon dros y misoedd diwethaf, gan rannu eu barn a'u profiadau personol i sicrhau bod hwn yn gynllun cymunedol o'r iawn ryw a luniwyd ar y cyd â’r trigolion. Nod y cynllun yw parhau â'r momentwm cadarnhaol hwn ac adeiladu ar gryfderau cynhenid y gymuned.