Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi "Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc: Cynllun Cyflawni hyd at 2016 ar gyfer GIG Cymru a'i Bartneriaid”. Rwyf hefyd yn cyhoeddi fersiwn fer o'r ddogfen i'r cyhoedd, sy'n nodi beth y gall pobl Cymru ei ddisgwyl o ran gofal strôc y GIG erbyn 2016. Mae mynd i'r afael â stroc a chanlyniadau strôc ledled Cymru yn ymrwymiad pwysig yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'i Chynllun pum mlynedd ar gyfer y GIG, Law yn Llaw at Iechyd, lle nodwn ein rhaglen uchelgeisiol ar gyfer iechyd gwell a llai o anghydraddoldebau yng Nghymru.
Mae'n briodol bod strôc wedi bod yn destun trafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar sawl achlysur. Mae hyn yn dangos yr effaith fawr y mae strôc yn ei chael ar fywydau cleifion a'u teuluoedd. Drwy gyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc, rwyf am adeiladu ar y cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud yng Nghymru.
Cydnabyddir yn gyffredinol, ers Archwiliad Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn 2006, ac ymchwiliadau dilynol y Pwyllgor Iechyd i strôc, bod gofal strôc wedi gwella'n sylweddol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ein poblogaeth yn heneiddio felly mae nifer y bobl sy'n byw ag effeithiau strôc yn cynyddu. Gwyddom y gallwn sicrhau canlyniadau gwell drwy ad-drefnu agweddau ar y gofal a ddarparwn, a chanolbwyntio ar ansawdd a phrofiadau cleifion. Rhaid i ni gau'r bylchau o fewn Cymru a'r bylchau rhwng Cymru a'r gwledydd Ewropeaidd mwyaf llwyddiannus.
Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol weithio gyda'u partneriaid i gyd i gynllunio a darparu gwasanaethau strôc sy'n diwallu anghenion pobl y mae risg y byddant yn cael strôc neu y mae strôc wedi effeithio arnynt. Diben y Cynllun Cyflawni hwn, felly, yw grymuso a galluogi'r GIG, ar y cyd â'i bartneriaid, i ddiwallu anghenion pobl y mae risg y byddant yn cael strôc neu y mae strôc wedi effeithio arnynt, drwy amlinellu'r canlynol:
• y canlyniadau rydym am eu cyflawni o ran y boblogaeth a sut y byddwn yn mesur llwyddiant;
• y canlyniadau rydym yn eu disgwyl i bobl ar ôl iddynt gael gofal strôc gan y GIG;
• sut y caiff llwyddiant y GIG ei fesur a'r lefel perfformiad a ddisgwyliwn erbyn 2016 ledled Cymru
• themâu i'r GIG weithredu arnynt, ar y cyd â'i bartneriaid, hyd at 2016
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus ac sydd wedi helpu i ddatblygu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc.
Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc hwn yn nodi gweledigaeth gymhellol ar gyfer llwyddiant. Mae'n herio pob sefydliad i gynllunio a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn partneriaeth. Mae Llywodraeth Cymru am weld gwelliant parhaus yn cael ei integreiddio mewn gwaith beunyddiol. Mae'n amser nawr i'r Byrddau Iechyd Lleol, gan gydweithio'n effeithiol ag Ymddiriedolaethau'r GIG, meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optegwyr, Llywodraeth Leol, y Trydydd Sector ac eraill, gynllunio a darparu gwasanaethau gofal strôc y gall Cymru ymfalchïo ynddynt a lle gall pob unigolyn y mae strôc wedi effeithio arno fod yn llawer gwell ei fyd o ganlyniad i'r gofal a dderbynnir ganddo.