Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi trydydd argraffiad crynodeb blynyddol sy’n darparu ystadegau allweddol ar gyfer Ardaloedd Cydweithredol Rhanbarthol.
Mae diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus yn sail i’r weledigaeth a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Cymru decach a mwy llewyrchus.
Mae llawer o’r dystiolaeth am beth sy’n gweithio o ran gwella gwasanaethau, yn ategu’r farn bod mwy o gydweithredu rhanbarthol a chenedlaethol yn helpu i gyflenwi gwasanaethau gwell. Nododd Llywodraeth Cymru batrwm daearyddol ar gyfer gweithgarwch cydweithredol rhanbarthol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn 2011, gan alinio ffiniau’r Awdurdodau Lleol a ffiniau rhanbarthol â gwasanaethau cyhoeddus eraill megis iechyd a phlismona.
Mae safoni’r set gyffredin hon o ffiniau daearyddol a threfniadau rhanbarthol yn cefnogi cyflenwi trwy hyrwyddo llywodraethu ac atebolrwydd cryfach. Mae’r dull hwn yn rhoi cydweithredu ar sylfaen hirdymor, fwy sefydlog er mwyn i bartneriaid fwrw ymlaen â’r gwaith o gydgysylltu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau ledled Cymru.
Y ddogfen yr wyf wedi’i chyhoeddi heddiw yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sy’n dod â gwybodaeth ynghyd am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i helpu’r cyhoedd ac eraill sy’n gweithredu ar eu rhan i ddeall a chraffu ar berfformiad gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn cynnig dadansoddiad o bob un o’r chwe Ardal Gydweithredol Ranbarthol ac mae’n gymar i gyhoeddiad Perfformiad Gwasanaethau’r Awdurdodau Lleol a gyhoeddais ym mis Ionawr. Mae’n cyflwyno cymhariaeth o fewn pob ardal ranbarthol ac ar draws y chwe ardal. Mae’n cynnwys ystod o wybodaeth sy’n adlewyrchu nodweddion demograffig, economaidd a chymdeithasol yr ardaloedd hyn.
Ers i’r fersiwn flaenorol o’r cyhoeddiad hwn gael ei chynhyrchu mae Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi. Tanlinellodd Adroddiad y Comisiwn bwysigrwydd ymwreiddio’r agenda gydweithredol ac atgyfnerthu’r achos o blaid cydweithredu ar lefel ranbarthol.
Mae ardaloedd y patrwm cydweithredol a gwmpesir yn y cyhoeddiad hwn yn parhau i ateb diben pwysig tra bôm wrthi’n llunio ein hymateb i Adroddiad y Comisiwn. Fel rwyf wedi dweud yn gyson, nid wyf yn disgwyl i’r Awdurdodau Lleol ddefnyddio Adroddiad y Comisiwn fel esgus i arafu neu i roi’r gorau i weithio i wella gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardal, tra bo’r gwaith i lunio ein hymateb neu i roi effaith iddi yn mynd rhagddo. Mae’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a barodd i ni nodi’r patrwm rhanbarthol yn hollbresennol ac nid ydynt yn mynd i ddiflannu. Caiff dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ei lunio gan ein hymateb i Adroddiad y Comisiwn; er hynny, nid yw’r ymdrechion i lunio’r dyfodol yn lleihau’r angen i feithrin dulliau gwell o gyflenwi gwasanaethau heddiw.
Mae’r cyhoeddiad, Comparison of the Regional Collaborative Areas 2014, i’w weld ar lein.