Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddiweddariad ynglŷn â’r gyfundrefn dariffau dros dro ar gyfer y DU pe baem yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae hyn yn diweddaru cyfraddau’r tariffau a gyhoeddwyd fis Mawrth 2019 ac yn gwneud tri newid penodol sy’n ymwneud â cherbydau HGV, bioethanol a dillad. Ni ymgynghorwyd a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ymlaen llaw.
Ers i’r set gyntaf o dariffau dros dro gael eu cyhoeddi fis Mawrth, rydym wedi codi nifer o bryderon ynghylch effaith y tariffau y penderfynwyd arnynt ar gyfer sefyllfa o ddiffyg cytundeb, ac wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i’w hadolygu. Rydym wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid yng Nghymru, sydd wedi mynegi pryderon penodol ynglŷn â’r effaith ar y sector amaeth ac ar burfeydd yng Nghymru. Mae’n debygol y bydd costau addasu sylweddol yn sgil y tarfu ar y cadwyni masnach a chyflenwi.
Bydd ymadael â’r UE heb gytundeb yn golygu bod allforwyr yn wynebu tariffau newydd er mwyn cael mynediad at farchnadoedd yr UE, yn ogystal â rhwystrau newydd nad ydynt yn dariffau. Ond, ar ben hynny, mae’n bosibl y byddant yn gweld mwy o gystadleuaeth wrth i Lywodraeth y DU ostwng y tariffau ar 88% o nwyddau’r DU. Mae risg y bydd hyn yn cael effaith negyddol ar economi Cymru o’i gymharu â’r status quo, sef mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl. Bydd hefyd yn taro’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan fod risg y bydd swyddi’n cael eu colli mewn nifer o’n hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Rydyn yn pryderu’n arbennig am yr effaith y bydd cael gwared ar dariffau ar fewnforion cynnyrch petrocemegol yn ei gael ar y diwydiant purfeydd yng Nghymru - mae hwn yn benderfyniad a wnaed er gwaethaf pwysau sylweddol gan Gymdeithas Diwydiant Petrolewm y DU. Y diwydiant petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig sy’n gyfrifol am 14% o allforion nwyddau Cymru. Gallai’r sector gael ei effeithio’n arbennig gan y methiant i addasu’r tariffau fel y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad agos â phurfa olew Valero ynglŷn â hyn. Mae’r undebau ffermio hefyd wedi tynnu sylw, a hynny’n gyfiawn, at yr effaith y byddai lleihau tariffau neu gael gwared arnynt yn ei gael ar y sector amaeth yng Nghymru. Ar y llaw arall, yn y meysydd lle mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cadw tariffau ar fewnforion, bydd hyn yn cael effaith negyddol ar ddefnyddwyr gan y bydd tariffau o’r fath yn berthnasol nawr i fewnforion o’r UE ac o wledydd lle nad yw Cytundebau Masnach Rydd presennol yr UE wedi’u hefelychu. Un o’r ychydig newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cynnig nawr yw gosod tariffau o 12% ar rai mathau o ddillad - bydd hyn yn cynyddu’r costau i deuluoedd sydd dan bwysau ariannol yn barod.
Nid yw’n bosibl cael Brexit da heb gytundeb. Fel y nodwyd yn Dyfodol Mwy Disglair i Gymru, bydd ymadael â’r UE heb gytundeb yn achosi niwed sylweddol i’n heconomi, a’r ateb gorau o hyd yw parhau’n aelodau o’r UE. Tystiolaeth bellach o hyn yw ymateb yr undebau ffermio, y sector puro olew ac eraill, yn tynnu sylw at y niwed posibl i’r diwydiant yn sgil y gyfundrefn dariffau a fyddai’n dod i rym pe na bai cytundeb.
Fel yr ydym wedi dweud yn glir o’r blaen, mae’r bygythiad gwirioneddol y bydd Brexit heb gytundeb yn golygu bod angen rhoi’r penderfyniad yn ôl yn nwylo’r bobl, a’r ffordd orau o ddiogelu buddiannau pobl Cymru yw aros yn yr UE.