Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, bydd Grŵp Cyngor Technegol Cymru yn cyhoeddi crynodeb o’r ymchwil a’r dystiolaeth y mae’n eu hystyried er mwyn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y Coronafeirws a chlefyd COVID-19.
Daw hyn ar ôl iddo cyhoeddi ei gylch gorchwyl a sut y mae’n mynd ati i fodelu’r rhif R ar gyfer Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae hynny’n cynnwys rhannu’r wybodaeth a’r argymhellion sy’n cyrraedd y Gweinidogion gyda phawb yng Nghymru.
Byddwn yn rhannu’r hyn yr ydym yn ei wybod a hefyd yr hyn nad ydym yn ei wybod. Wrth rannu’r dogfennau hyn, gobeithio y bydd pawb yng Nghymru yn dod i ddeall pa mor denau yw’r ffin yng nghyd-destun rheoli’r haint. Rwy’n gobeithio hefyd y byddwch yn dod i ddeall pa mor bwysig yw, ac y bydd, yr hyn y mae pob un o’n dinasyddion yn ei wneud, er mwyn lleihau’r niwed a achosir gan y clefyd hwn.
Byddaf yn cyhoeddi’r dogfennau hyn bob dydd Mawrth. Mae’r dogfennau i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.